Auch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Auch

Tref a chymuned yn ne-orllewin Ffrainc yw Auch (Gasconeg: Aush). Hi yw prifddinas département Gers, a saif yn région Midi-Pyrénées. hi oedd prifddinas tiriogaeth hanesyddol Gasgwyn. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 23,155.

Saif ar lan Afon Gers, afon sy'n llifo i mewn i Afon Garonne. Mae'r afon yn rhannu'r dref yn ddwy ran, y dref uchaf (Haute-Ville) ar benrhyn creigiog uwch yr afon, safle'r ddinas yn y Canol Oesoedd. lle ceir y gaer ac adeiladau hanesyddol eraill, a'r dref isaf (Basse-Ville) ar y gwastadedd.

Auch Haute ville o Gers