Gasconeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ardaloedd Gasconeg a ffurfiau eraill o'r Occitaneg

Gasconeg (Ffrangeg: gascon) yw'r dafodiaith neu iaith a siaredir yn y rhan o dde-orllewin Ffrainc sy'n cyfateb i diriogaeth hanesyddol Gasgwyn. Bu'n iaith swyddogol Gasgwyn am dros dair canrif. Y farn fwyaf cyffredin ymysg ieithegwyr yw ei bod yn dafodiaith o'r Occitaneg, ond crêd rhai ei bod yn iaith ar wahân. Mae'r iaith Araneg, a siaredir yn y Val d'Aran yn Sbaen yn ffurf o'r iaith Gasconeg. Ceir tua 250,000 o siaradwyr.

Tafodieithodd Gasconeg[golygu]