Astana (tîm seiclo)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tîm seiclo yw Astana, sy'n cael ei noddi gan grŵp Astana, clymblaid o gwmnïau sydd yn eiddo i Casachstan; caiff ei enwi ar ôl ei phrifddinas, Astana. Derbyniodd Astana statws UCI ProTeam yn ei flwyddyn gyntaf yn 2007. Yn dilyn ymryson cyffuriau yn ystod Tour de France 2007, diddymwyd rheolwyr y tîm a daethpwyd a rheolwyr newydd i fewn er mwyn ail-adeiladur tîm ar gyfer tymor 2008. Mae'r tîm dan reolaeth Johan Bruyneel, cyn reolwr tîm U.S. Postal/Discovery Channel. Er fod tîm Astana wedi bod yn lwyddiadus odan arweiniaeth Bruyneel, gyda'r tîm yn cynnwys enillwyr sawl Tour (Alberto Contador a Lance Armstrong), yn ogystal a rhai ddaeth yn ail (Levi Leipheimer ac Andreas Klöden), mae'r tîm yn gwynebu cwymp ariannol ers mis Mai 2009. Mae amheuaeth os fydd y tîm yn parhau i fodoli ar ôl Tour de France 2009 oherwydd bydd y reidiwr Casachstanaidd, Alexander Vinokourov, a gafodd ei wahardd yn dychwelyd.

Cycling (road) pictogram.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seiclo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.