Neidio i'r cynnwys

Arthur (cyfres teledu)

Oddi ar Wicipedia
Arthur
Genre Cyfres deledu plant
Crëwyd gan Greg Bailey yn seiliedig ar lyfrau Marc Brown
Serennu Gweler Cymeriadau
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Canada
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 11 (12fed i ddod)
Nifer penodau 155
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud (tua 11 munud pob pennod)
Darllediad
Sianel wreiddiol PBS
Rhediad cyntaf yn 1996
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Cyfres deledu animeiddiedig Canadaidd ac Americanaidd sy'n seiliedig ar lyfrau Arthur, a ddarlunwyd ac ysgrifennwyd gan Marc Brown, yw Arthur. Caiff ei ddarlledu ar rwydwaith PBS yn bennaf yn yr Unol Daleithiau; Radio-Canada, Knowledge Network a TVO yng Nghanada; a BBC One yn y Deyrnas Unedig, ymysg sianeli a rhwydweithiau eraill.

Mae pob pennod fel arfer yn dilyn Arthur Timothy Read, cymeriad sy'n aardvark anthropomorffaidd, a'i rhyngweithiad gyda'i gyfoedion a'i deulu o ddydd i ddydd. Mae'r gyfres yn delio gyda maerion cymdeithasol ac iechyd sy'n effeithio plant bach. Mae pwyslais trwm ar werthoedd addysgol lyfrau a llyfrgelloedd. Dechreuodd Cinar (Cookie Jar Entertainment erbyn hyn) gynhyrchu'r gyfres animeiddiedig yn 1994, a cafodd ei ddarlledu ar sianel PBS dyflwydd yn ddiweddarach.

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres wedi ennill Gwobr George Foster Peabody a pedwar Gwobr Daytime Emmy ar gyfer Outstanding Children's Animated Program. Yn 2002, rhestrodd y TV Guide Arthur Read yn rhif 26 ar eu rhestr o'r "50 Cymeriad Cartŵn Gorau Erioed."[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Arthur Read, aardvark - Pamela Adlon (1996-)
  • Dora Winifred "D.W." Read, chwaer Arthur - Mary Kay Bergman (1996-1999), April Stewart (2000-)
  • Jane Read, mam Arthur - Tress MacNeille
  • David Read, tad Arthur - Rob Paulsen
  • Binky Barnes, ci - Rob Paulsen
  • Francine Frensky, mwnci - Mary Kay Bergman (1996-1999), Cree Summer (2000-)
  • Buster Baxter, cwningen - Tom Kenny
  • Alan "Brain" Powers - Mary Kay Bergman (1996-1999); Colleen O'Shaughnessey (2000-)
  • Mary "Muffy" Crosswire - Mary Kay Bergman (1996-1999), Grey Griffin (2000-)
  • Pal, ci Arthur - Frank Welker (1996-)
  • Prunella Deagan - Mary Kay Bergman (1996-1999), Jenna von Öy (2000-)
  • Sue Ellen Armstrong - Mary Kay Bergman (1996-1999); Elizabeth Daily (2000 -)
  • Catherine Frensky - Cathy Cavadini (1996-)
  • Grandma Thora, mam-gu Arthur - June Foray (1996-2017), Lauri Fraser (2018-present)
  • Mr. Ratburn - Dee Bradley Baker
  • Bionic Bunny - Dee Bradley Baker
  • Grandpa Dave - Billy West
  • Edward Crosswire - Billy West
  • Principal Herbet Haney - Jess Harnell
  • Mrs. Sarah MacGrady - Nancy Cartwright
  • Fern Walters - Tara Strong

Penodau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  About the Program. PBS Kids.
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato