Aardvark
Oddi ar Wicipedia
| Aardvark | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Uwchurdd: | Afrotheria |
| Urdd: | Tubulidentata Huxley, 1872 |
| Teulu: | Orycteropodidae Gray, 1821 |
| Genws: | Orycteropus Cuvier, 1798 |
| Rhywogaeth: | O. afer |
| Enw deuenwol | |
| Orycteropus afer (Pallas, 1766) |
|
Mamal yw'r aardvark (enw rhywogaeth Lladin Orycteropus afer) a geir mewn rhannau o Affrica. Daw'r enw o'r iaith Afrikaans ac mae'n golygu "mochyn daear". Ceir hefyd yr enwau Cymraeg baedd daear (gwryrwaidd, lluosog: baeddod daear) a grugarth (benywaidd, lluosog: grugeirth).[1] Yr aardvark yw unig aelod ei urdd, Tubulidentata.
Anifail nosol yw'r aardvark. Mae oedolion yn tyfu i hyd at 1.5m. Mae'n byw mewn tiroedd glaswelltog fel y savannah ac mae ganddo drwyn hir, clustiau mawr a chynffon dew.
Defnyddia'r aardvark ei grafangau hir i dyllu ffau yn y ddaear ac agor twmpathau morgrug gwynion (termites) i'w llyfu i fyny â'i dafod hir.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1 [aardvark].