Artaxerxes II, brenin Persia
Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 404 CC a 358 CC oedd Artaxerxes II Mnemon, Hen Berseg: Artaxšaçrā, Groeg: Ἀρταξέρξης (c. 436 CC – 358 CC).
Roedd Artaxerxes yn fab i Darius II, brenin Persia a Parysatis. Wedi olynu ei dad, bu raid iddo oechfygu gwrthryfel gan ei frawd Cyrus yr Ieuengaf, a laddwyd ym Mrwydr Cunaxa yn 401 CC. Bu mewn rhyfel yn erbyn Sparta dan Agesilaus II hefyd, pan ymosododd y Spartiaid ar Asia Leiaf. Rhoddodd Artaxerxes arian i elynion Sparta yng Ngwlad Groeg, yn enwedig Athen a Thebai, ond yna torrodd ei gynghrair a hwy i wneud heddwch a Sparta.
Gwrthryfelodd yr Aifft ar ddechrau ei deyrnasiad, a methodd ei ymgais i'w hadfeddiannu yn 373 CC. Olynwyd ef gan ei fab, Artaxerxes III.
Cred rhai mai ef oedd Ahasfferus, brenin Persia yn Llyfr Esther yn y Beibl.
| Rhagflaenydd : Darius II |
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia Artaxerxes II |
Olynydd : Artaxerxes III |