Ardal Drefol Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Map o Ardal Drefol Caerdydd, gan ddangos israniadau a ffiniau'r awdurdodau lleol

Ardal Drefol Caerdydd (neu Caerdydd Fwyaf) yw'r enw a roddir ar yr ardal drefol o amgylch awdurdod unedol Caerdydd ac sydd hefyd yn cynnwys Penarth a Dinas Powys. Yn y cyfrifiad diwethaf roedd poblogaeth yr ardal drefol hon yn 447,487[1]. Cysylltir y ddinas ei hun a'r ardal allanol yma (Pennarth a Dinas Powys) gan ardal Bae Caerdydd.[2] Poblogaeth awdurdod unedol Caerdydd oddeutu yn y cyfrifiad diwethaf oedd 447,487[1].[3] Amcangyfrifodd Cyngor Caerdydd fod poblogaeth yr awdurdod unedol yn 317,500 yn 2006; yng nghyfrifiad 2011 roedd yn 346,090.

Israniadau[golygu | golygu cod]

Yn ôl diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd gan Ardal Drefol Caerdydd yr israniadau a ganlyn:

Safle Is-ardal drefol Poblogaeth
cyfrifiad 2001 cyfrifiad 2011
1 Caerdydd 292,150 335,145
2 Caerffili 41,402
3 Pontypridd 30,457
4 Penarth 23,245 27,226
5 Dinas Powys 7,653 7,490
6 Ffynnon Taf 5,567
Radur 4,658
Cyfanswm 327,206 447,287

Nodiadau:

  • Cafodd Radur ei gynnwys yn isadran Caerdydd yng nghyfrifiad 2011.
  • Roedd Pontypridd, Caerffili a Ffynnon Taf yn ardaloedd trefol ar wahân yng nghyfrifiad 2001.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, Wikidata Q855531, https://www.ons.gov.uk/census/2011census
  2. "2011 Census - Built-up areas". ONS. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2013.
  3. Area: Cardiff (Local Authority) Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback., Office of National Statistics.