Radur
Oddi ar Wicipedia
Ardal yng Nghaerdydd yw Radur (Seisnigiad: Radyr). Mae'n rhan o gymuned Radur a Threforgan.
Er ei bod yn un o faesdrefi Caerdydd heddiw, yn y gorffennol bu'n ardal ar wahân. Yma ar droad yr 16eg ganrif safai plasdy Syr Wiliam Mathau, un o Fatheuaid Llandaf, fu'n gasglwr llawysgrifau a noddwr i feirdd Morgannwg, yn cynnwys y clerwr Lang Lewys (bl. 1480-1520).
Tua kilometr i'r gogledd saif hen domen o'r Oesoedd Canol, sef Castell Morgan.
Dolenni allanol [golygu]
- Tudalen Cyngor Cymunedol Radur ar wefan Cyngor Dinas Caerdydd