Another Country

Oddi ar Wicipedia
Another Country
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1984, 11 Mehefin 1987 Edit this on Wikidata
Genreffilm ddrama, ffilm ramantus, ffilm am LHDT Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLloegr Edit this on Wikidata
Hyd90 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrMarek Kanievska Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrAlan Marshall, Robert Fox Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuVirgin Group, Goldcrest Films, National Film Finance Corporation, Archant Edit this on Wikidata
CyfansoddwrMichael Storey Edit this on Wikidata
Dosbarthydd20th Century Fox, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddPeter Biziou Edit this on Wikidata

Ffilm ddrama rhamantus gan y cyfarwyddwr Marek Kanievska yw Another Country a gyhoeddwyd yn 1984. Fe'i cynhyrchwyd yn y Deyrnas Gyfunol. Lleolwyd y stori yn Lloegr.

Y prif actorion yn y ffilm hon yw Colin Firth, Rupert Everett, Anna Massey, Cary Elwes, Robert Addie a Rupert Wainwright. Mae'r ffilm Another Country yn 90 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw. [1][2]

Peter Biziou oedd sinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm hon a chafodd ei golygu gan Gerry Hambling sydd ymhlith y golygyddion mwyaf toreithiog.

Mae'r ffilm yn seiliedig yn fras ar fywyd yr ysbïwr ac asiant dwbl Guy Burgess, (Guy Bennett yn y ffilm). Mae'n archwilio ei wrywgydiaeth a'i gyflwyniad i Farcsiaeth, wrth archwilio rhagrith a snobyddiaeth system ysgolion bonedd Lloegr.[3]

Plot[golygu | golygu cod]

Mae'r stori wedi ei leoli mewn ysgol fonedd, wedi'i seilio ar Eton a Winchester, yn y 1930au. Mae Guy Bennett (Rupert Everett) a Tommy Judd (Colin Firth) yn ddisgyblion yn yr ysgol. Oherwydd bod y ddau ohonyn nhw ar yn bobl yr ymylon yn eu ffyrdd eu hunain, maent hefyd yn ffrindiau (mae Bennett yn hoyw tra bod Judd yn Farcsydd).[4]

Ar gychwyn y ffilm mae athro yn dod ar draws dau fachgen yn mastyrbio ei gilydd. Oherwydd ei gywilydd o gael ei ddal yn cyflawni gweithred wrywgydiol mae un o'r bechgyn yn crogi ei hun. Mae'r athrawon a’r disgyblion hŷn yn ymdrechu’n galed i gadw’r sgandal draw oddi wrth rieni a’r byd tu allan.[5]

Mae’r sgandal hoyw, yn rhoi esgus i Fowler, capten y tŷ mae Bennett yn aelod ohoni, i gynllwynio yn erbyn Bennett. Nid yw Fowler yn hoffi Bennet na Judd ac mae'n ofni caiff Bennett ei benodi yn "Dduw" - teitl ysgol ar gyfer y ddau brif fachgen. Mae Fowler yn llwyddo rhyng-gipio nodyn serch gan Bennett i'w gyd ddisgybl James Harcourt . Mae Bennett yn cytuno i gael ei gosbi â chansen er mwyn peidio â chyfaddawdu Harcourt. Ar achlysuron eraill, roedd wedi osgoi cosb trwy flacmelio'r "Arglwyddi" (swyddogion) eraill gyda'r bygythiad y byddai'n datgelu eu profiadau rhywiol hwy gydag ef.[6]

Mae Judd yn ddweud wrth Bennett ei fod yn gyndyn o ddod yn swyddog ymysg y disgyblion, gan ei fod yn teimlo na all gymeradwyo'r fath "system o ormes". Mae’n gwneud araith deimladwy, chwerw am sut mae’r bechgyn sy'n cael eu gorthrymu gan y system yn tyfu i fod y tadau sy'n ei chynnal. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae'n cytuno i ddod yn swyddog er mwyn atal Fowler rhag dod yn Bennaeth y Tŷ. Yn y pendraw nid yw'n cael ei wneud yn swyddogoherwydd bod Donald Devenish yn cytuno i aros yn yr ysgol a dod yn swyddog os caiff ef ei enwebu i ddod yn Dduw yn lle Bennett.

Wedi torri ei galon ar golli ei freuddwyd  o ddod yn Dduw. Daw Bennett i sylweddoli bod y system ddosbarth Prydeinig yn dibynnu'n gryf ar olwg allanol a bydd bod yn agored hoyw yn rhwystr difrifol i'w ddymuniad i gael gyrfa fel diplomydd.

Mae epiliog y ffilm yn adrodd bod Bennet wedi troi ei gefn ar Brydain ac wedi encilio i Rwsia yn ddiweddarach yn ei fywyd, ar ôl bod yn ysbïwr i’r Undeb Sofietaidd. Bu farw Judd yn ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen.

Cyfarwyddwr[golygu | golygu cod]

Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Marek Kanievska ar 30 Tachwedd 1952 yn Llundain.

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:

  • 80%[7] (Rotten Tomatoes)
  • 6.3/10[7] (Rotten Tomatoes)

.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Marek Kanievska nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:

Rhestr Wicidata:

Ffilm Delwedd Gwlad Iaith wreiddiol dyddiad
A Different Loyalty Unol Daleithiau America
y Deyrnas Gyfunol
Canada
Saesneg
Rwseg
2004-01-01
Another Country y Deyrnas Gyfunol Saesneg 1984-01-01
Less Than Zero Unol Daleithiau America Saesneg
Sbaeneg
1987-01-01
Where The Money Is Unol Daleithiau America Saesneg 2000-01-01
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Genre: http://www.imdb.com/title/tt0086904/. dyddiad cyrchiad: 7 Gorffennaf 2016.
  2. Cyfarwyddwr: http://www.imdb.com/title/tt0086904/. dyddiad cyrchiad: 7 Gorffennaf 2016. http://www.allocine.fr/film/fichefilm_gen_cfilm=90.html. dyddiad cyrchiad: 7 Gorffennaf 2016.
  3. "Another Country". Caution Spoilers (yn Saesneg). 2016-09-27. Cyrchwyd 2022-10-13.
  4. "BFI Screenonline: Another Country (1984) Synopsis". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2022-10-13.
  5. Canby, Vincent (1984-06-29). "THE SCREEN:'ANOTHER COUNTRY'". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2022-10-13.
  6. Another Country (1984) - IMDb, http://www.imdb.com/title/tt0086904/plotsummary, adalwyd 2022-10-13
  7. 7.0 7.1 "Another Country". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 6 Hydref 2021.