Ann Cotton

Oddi ar Wicipedia
Ann Lesley Cotton
Ann Lesley Cotton
GanwydAnn Lesley Cotton
1950
Caerdydd
Prif wobrau
  • 2004 Social Entrepreneur of the Year dros y DU [1]
  • Cymrodor Anrhydeddus y Brifysgol Agored [1]
  • 2005 Enillydd Gwobr Beacon [1]
  • 2005 Gwobr Skoll (fel Entrepreneur) [2]
  • 2006 OBE [3]
  • 2007 Doethuriaeth Anrhydeddus yn y Gyfraith gan Brifysgol Caergrawnt.[1]
  • 2014 Gwobr GDST Alumna of the Year [4]
  • 2014 Gwobr WISE Prize am Addysg[5]

Entrepreneur cymdeithasol, addysgwraig a dyngarwr yw Ann Lesley Cotton OBE (g. 1950, yng Nghaerdydd). Mae'n un o sefydlwyr Camfed (Campaign for Female Education), mudiad 'nid-am-dâl sy'n ceisio dileu newyn a thlodi yn Affrica.[1][3]

Camfed[golygu | golygu cod]

Nod Camfed yw galluogi merched i dorri'n rhydd o hualau 'tlodi' drwy roi addysg a chyfleoedd iddynt. Gwnânt hyn drwy'r ysgolion ac wedi iddynt adael yr ysgol gan geisio roi iddynt y sgiliau angenrheidiol i arwain eu cymunedau lleol. Er mwyn cwbwlhau'r cylch a elwir yn “virtuous cycle” rhoddir statws arbennig i'r myfyrwyr, gan raddio fel alumnae neu 'gynddisgybl' CAMA. Yn aml, dychwela'r disgyblion hyn i'w hysgolion er mwyn hyfforddi myfyrwyr eraill, iau.[6]

Hyd at 2016 roedd dros tair miliwn o blant wedi mynd drwy'r tresi hyn, ac wedi cael budd o raglen waith Camfed.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Mrs Ann Cotton, Executive Director, CamFed International, and Entrepreneur in Residence, Centre for Entrepreneurial Learning, University of Cambridge". University of Cambridge, Centre for Science and Policy. Cyrchwyd 2 March 2016.
  2. "Camfed". Skoll. Skoll Foundation. Cyrchwyd 2 Mawrth 2016.
  3. 3.0 3.1 McVeigh, Tracey (28 Chwefror 2015). "Ann Cotton: educating millions within Africa by inspiring sustainable change". The Guardian. Cyrchwyd 28 Chwefror 2015.
  4. "Ann Cotton OBE wins GDST Alumna of the Year Award". Girls' Day School Trust Website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-11. Cyrchwyd 2 Mawrth 2016.
  5. "Ann Cotton awarded the 2014 WISE Prize for Education". WISE Initiative. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-04. Cyrchwyd 2 Mawrth 2016.
  6. "CAMA alumnae: young women leading change". Camfed. Cyrchwyd 2 March 2016.
  7. "Ann Cotton OBE Founder and President, Camfed International". Camfed. Cyrchwyd 2 March 2016.