Andrea Palladio
Oddi ar Wicipedia
Pensaer Eidalaidd oedd Andrea di Pietro della Gondola (Palladio) (30 Tachwedd 1508 – 19 Awst 1580). Cafodd y llysenw "Palladio" gan Gian Giorgio Trissino, yn cyfeirio at Pallas Athena, duwies doethineb yn y pantheon Groegaidd.
Ganed ef yn Padua, a dechreuodd weithio fel pensaer yn 1540. Bu'n byw yn Vicenza am flynyddoedd, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladau yno. Cafodd ddylanwad mawr ar bensaerniaeth; er enghraiift roedd yn un o'r dylanwadau pwysicaf ar Inigo Jones.