Vicenza
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd yr Eidal yw Vicenza. Saif ar afonydd Bacchiglione a Retrone, yn rhanbarth Veneto, tua 60 km i'r gorllewin o Fenis. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 113,483.
Bu'r pensaer Andrea Palladio yn byw yn Vicenza am flynyddoedd, a chafodd effaith fawr ar bensaerniaeth y ddinas. Ymysg yr adeiladau y bu'n gyfrifol amdanynt mae'r Teatro Olimpico, y theatr gyda tho hynaf yn Ewrop. Dynodwyd y canol hanesyddol yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Biblioteca Civica Bertoliana (llyfrgell)
- Casa Pigafetta (tŷ Palladio)
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys Santa Corona
- Torre Bissara
- Gan Palladio
- Basilica Palladiana
- Palazzo Chiericati
- Palazzo Barbaran da Porto (amgueddfa Palladio)
- Palazzo del Capitaniato
- Palazzo Porto
- Palazzo Porto in Piazza Castello
- Palazzo Thiene Bonin Longare
- Palazzo Thiene
- Villa Gazzotti Grimani
- Villa Almerico Capra
Pobl enwog o Vicenza [golygu]
- Gian Giorgio Trissino (1478-1550), bardd
- Antonio Pigafetta (ca. 1491), fforiwr, un o'r ugain a ddychwelodd o fordaith Ferdinand Magellan o gylch y byd