An Inconvenient Truth
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Davis Guggenheim |
| Cynhyrchydd | Lawrence Bender Scott Z. Burns Laurie David Lesley Chilcott (cyd-gynhyrchydd) |
| Ysgrifennwr | Al Gore |
| Serennu | Al Gore |
| Cwmni Cynhyrchu | Paramount Classics |
| Dyddiad rhyddhau | 24 Mai, 2006 |
| Amser rhedeg | 94 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae An Inconvenient Truth (2006) yn ffilm dogfennol am gynhesu byd-eang a gyfarwyddwyd gan Davis Guggenheim, ac a gyflwynwyd gan cyn Îs-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Al Gore. Bu noson agoriadol y ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance ac agorodd yn Efrog Newydd a Los Angeles ar y 24ain o Fai, 2006. Rhyddhawyd y ffilm ar DVD gan Paramount Home Entertainment ar y 21ain o Dachwedd, 2006. Cyrhaeddodd llyfr gan Gore o'r enw "An Inconvenient Truth: The Planetary Emergency of Global Warming and What We Can Do About It", a oedd yn cyd-fynd â'r ffilm #1 ar restr y New York Times o werthwyr gorau ar yr 2il o Orffennaf, 2006. Enillodd y ffilm ddogfen Wobr yr Academi am y Ffilm Ddogfennol Orau a'r Gân Wreiddiol Orau.
Gwnaeth y ffilm $49 miliwn yn y swyddfa docynnau yn fyd-eang, gan wneud An Inconvenient Truth y pedwerydd ffilm ddogfen mwyaf llwyddiannus o safbwynt masnachol yn yr Unol Daleithiau, ar ôl Fahrenheit 9/11, March of the Penguins, a Sicko.
