Alexei Leonov
Oddi ar Wicipedia
Y person cyntaf i gerdded yn y gofod oedd y gofodwr Sofietaidd Alexei (Alexey) Leonov (1934-). Cyflawnwyd y camp ar 18 Mawrth 1965, pan wnaeth Leonov adael ei long gofod, Voskhod 2, am ugain munud. Yn 1975, roedd Leonov yn gyfrifol am y llong ofod Soyuz 19 yn ystod yr Apollo-Soyuz Test Project (ASTP), yr achlysur cyntaf yn hanes dyn yn y gofod pan wnaeth yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd gyd-weithio.
Mae Leonov yn arlunydd o fri; mae o wedi paentio nifer o luniau yn seiliedig ar ei brofiadau yn y gofod.