Alcatraz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Alcatraz ym Mae San Francisco o'r awyr.

Carchardy enwog ar ynys ym Mae San Francisco, gyferbyn â dinas San Francisco ei hun, yn Califfornia, yr Unol Daleithiau (UDA), yw Alcatraz. Sefydlwyd carchar diogelwch uchel ar yr ynys yn 1932 a ddaeth yn ddrwgenwog am lymder ei disgyblaeth ac yn ddihareb am rywle amhosibl i ddianc ohono. Serch hynny llwyddodd rhai o'r carcharorion i dorri allan yn 1962 a chafwyd ffilm am y digwyddiad yn 1979. Caewyd fel carchar yn 1969.

[golygu] Fffilm a ffuglen

Serenodd Burt Lancaster yn y ffilm boblogaidd The Birdman of Alcatraz (1962) am garcharor sy'n treulio ei flynyddoedd yn Alcatraz yn astudio ornitholeg ac sy'n dod yn arbenigwr byd-enwog ar adar.

Yn 1979, saethwyd y ffilm Escape From Alcatraz, yn serennu Clint Eastwood, sy'n seiliedig ar y digwyddiad yn 1962.


Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill