Alaric I

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alaric I, darlun gan Ludwig Thiersch.

Roedd Alaric I (c. 370 - 410) yn frenin y Fisigothiaid (395 - 410). Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd iddo gipio dinas Rhufain yn 410, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 390 CC.

Ganed Alaric tua'r flwyddyn 375 at ynys Peuce, ger aber Afon Donaw. Dechreuodd ei yrfa filwrol fel arweinydd byddin Fisigothaidd yn ymladd dros yr Ymerodraeth Rufeinig. Tua 395 gwrthryfelodd y Fisigothiaid a chyhoeddi Alaric yn frenin. Bu'n ymladd yn erbyn Honorius, yr Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin. Yn 401 gwnaeth gytundeb ag Arcadius, yr ymerawdwr yn y dwyrain, a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin, gan gipio dinasoedd Groegaidd megis Corinth a Sparta cyn cyrraedd Yr Eidal. Yno, gorchfygwyd ef gan y cadfridog Rhufeinig Stilicho ar 6 Ebrill 402 ym Mrwydr Pollentia.

Wedi i Honorius lofruddio Stilicho yn 408, gallodd Alaric a'i fyddin ymosod ar yr Eidal eto a gosod gwarchae ar ddinas Rhufain. Ym mis Awst 410 cipiodd y ddinas a'i hanrheithio, gan ddwyn chwaer yr ymerawdwr, Gala Placidia, ymaith fel carcharor. Yn fuan wedyn bu farw yn Cosenza, efallai o dwymyn. Claddwyd ef ar wely Afon Busento; trowyd llif yr afon o'i sianel i gloddio ei fedd, ac yna wedi ei gladdu gadawyd i'r dŵr ddychwelyd fel na allai neb ysbeilio ei fedd. Olynwyd ef gan ei frawd-yng-nghyfraith, Ataulf.