Alþingishúsið

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alþingishúsið yn Reykjavík.

Adeilad clasurol o'r 19eg ganrif sy'n sefyll ger Austurvöllur yn Reykjavík, Gwlad yr Iâ, yw Alþingishúsið ([ˈalθɪɲcɪsˌhuːsɪθ, Tŷ'r Senedd). Mae'n lletya Alþingi, Senedd Gwlad yr Iâ. Cynlluniwyd yr adeilad gan bensaer Danaidd Ferdinand Meldahl a chafodd ei adeiladu gan ddefnyddio dolerit yn ystod 1880 a 1881.

Mae Alþingishúsið hefyd wedi lletya "Icelandic National Library and Antiquaries Collection" ac wedyn yr "Icelandic National Gallery." Defnyddiodd Prifysgol Gwlad yr Iâ llawr cyntaf y tŷ o 1911 i 1940, ac roedd gan Lywydd Gwlad yr Iâ ei swyddfa yn yr adeilad hwn tan 1973.

Heddiw, mae dim ond y siambr drafod, ychydig ystafelloedd cyfarfod bychain a rhai o'r staff seneddol hŷn yn ymsefydlu mewn Alþingishúsið.

Dolenni allanol[golygu]

IcelandStub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Iâ. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato