Agnes Sligh Turnbull

Oddi ar Wicipedia
Agnes Sligh Turnbull
Ganwyd14 Hydref 1888 Edit this on Wikidata
Pennsylvania Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 1982, 1982 Edit this on Wikidata
Livingston, New Jersey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures toreithiog, Americanaidd oedd Agnes Sligh Turnbull (14 Hydref 1888 - 31 Ionawr 1982). Roedd llawer o'i gwaith yn ymwneud â ffuglen hanesyddol, wedi'i lleoli yn ei hardal enedigol, sef gorllewin Pennsylvania.

Ganed Agnes Sligh yn New Alexandria, Pennsylvania ar 14 Hydref 1888 a bu farw yn Livingston, New Jersey. Fe'i claddwyd yn New Alexandria, Pennsylvania lle cafodd ei geni.[1][2][3]

Magwraeth a theulu[golygu | golygu cod]

Ei rhieni oedd Lucinda Hannah McConnell, o dras yr Albanaidd ac Alexander Halliday Sligh, hefyd yn fewnfudwr o'r Alban. Mynychodd ysgol y pentref, ac aeth ymlaen i ysgol breswyl cyn cofrestru yng Ngholeg yr Athrawon yn yr hyn a elwir bellach yn Brifysgol Indiana Pennsylvania, lle graddiodd Phi Beta Kappa. Mynychodd hefyd Brifysgol Chicago cyn dechrau gyrfa fel athrawes Saesneg mewn ysgol uwchradd.

Yn 1918, priododd James Lyall Turnbull, ychydig cyn iddo deithio i Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd, a bu'r ddau gyda'i gilydd am 40 mlynedd. Cawsant un plentyn, merch o'r enw Martha. Symudodd y teulu i Maplewood, New Jersey ym 1922, lle bu iddynt ymsefydlu.[4]

Yn 1920, yn The American Magazine, cyhoeddwyd stori fer gyntaf Turnbull, a chyhoeddodd straeon byrion pellach yn rheolaidd tan 1936, pan gyhoeddodd ei nofel gyntaf, The Rolling Years. Er bod rhai beirniaid yn ystyried bod moesoldeb ei hysgrifennu yn hen ffasiwn, roedd hi ac eraill yn ei briodoli i agwedd obeithiol ar fywyd.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Nofelau byachan[golygu | golygu cod]

  • In The Garden. Efrog Newydd: Fleming H. Revell, 1926
  • The Wife of Pontius Pilate. Efrog Newydd: Fleming H. Revell, 1928
  • The Colt That Carried A King. Efrog Newydd: Fleming H. Revell, 1933
  • Once To Shout. Efrog Newydd: Macmillan, 1943
  • Little Christmas. Boston: Houghton Mifflin, 1964

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • The Rolling Years. Efrog Newydd: Macmillan, 1936.
  • Remember the End. Efrog Newydd: Macmillan, 1938.
  • The Day Must Dawn. Efrog Newydd: Macmillan, 1942.
  • The Bishop's Mantle. Efrog Newydd: Macmillan, 1947.
  • The Gown of Glory. Boston: Houghton Mifflin, 1952.
  • The Golden Journey. Boston: Houghton Mifflin, 1955.
  • The Nightingale (Turnbull novel)|The Nightingale. Boston: Houghton Mifflin, 1960.
  • The King's Orchard. Boston: Houghton Mifflin, 1963
  • The Wedding Bargain. Boston: Houghton Mifflin, 1966
  • Many A Green Isle. Boston: Houghton Mifflin, 1968
  • The Flowering (novel)|The Flowering. Boston: Houghton Mifflin, 1972.
  • The Richlands. Boston: Houghton Mifflin, 1974.
  • The Winds of Love. Boston: Houghton Mifflin, 1977.
  • The Two Bishops. Boston: Houghton Mifflin, 1980.

Casgliadau o storiau byrion[golygu | golygu cod]

  • This Spring of Love. Efrog Newydd: Fleming H. Revell, 1924
  • Far Above Rubies. Efrog Newydd: Fleming H. Revell, 1926
  • The Four Marys. Efrog Newydd: Fleming H. Revell, 1932
  • Old Home Town. Efrog Newydd: Fleming H.Revell, 1933

Gwaith i bobl ifanc[golygu | golygu cod]

  • Elijah the Fish-bite. Efrog Newydd: Macmillan, 1940.
  • Jed, the Shepherd’s Dog. Boston: Houghton Mifflin, 1957.
  • George. Boston: Houghton Mifflin, 1964.
  • The White Lark. Boston: Houghton Mifflin, 1968.

Hunangofiannau[golygu | golygu cod]

  • Dear Me: Leaves from the Diary of Agnes Sligh Turnbull. Efrog Newydd: Macmillan, 1941.
  • Out Of My Heart. Boston: Houghton Mifflin, 1958

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  2. Dyddiad geni: "Agnes Sligh Turnbull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Agnes Sligh Turnbull". ffeil awdurdod y BnF.
  3. Dyddiad marw: "Agnes Sligh Turnbull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Agnes Sligh Turnbull". ffeil awdurdod y BnF.
  4. Waggoner, Walter H. "Agnes Turnbull, Novelist, 93, Dies", The New York Times, 2 Chwefror 1982. Adalwyd 24 Hydref 2007. "Agnes Sligh Turnbull, a popular and prolific novelist and shortstory writer, died Sunday at St. Barnabas Medical Center in Livingston, N.J. She was 93 years old and had lived in Maplewood, N.J., for 60 years."