Afon Sénégal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun lloeren gan NASA o gwrs Afon Senegal

Afon fawr 1790 km o hyd yng Ngorllewin Affrica sy'n ffurfio'r ffin rhwng Senegal i'r de a Mawritania i'r gogledd yw Afon Sénégal.

Cyfeiria Pliny yr Hynaf ati wrth yr enw Bambotus (o'r gair Ffeniceg behemoth sef "afonfarch") a gan Claudius Ptolemy wrth yr enw Nias. Ymwelodd Hanno o Carthago a'i haber yn 450 CC ar ei fordaith o Carthago drwy Pileri Herakles i Theon Ochema (Mynydd Camerŵn efallai) yng Ngwlff Gini. Sefydlwyd masnach rhwng trigolion glannau'r afon a dinasoedd y Môr Canoldir, tan i Carthago a'i rhwydwaith masnach yng ngorllewin Affrica gael ei dinsitrio yn 146 CC.

Mae'r afon yn cael ei ffurfio wrth i afonydd Semefe (Bakoy) a Bafing ymuno ger tref Bafoulabé, Mali. Mae'r afonydd Semefé a Bafing yn eu tro yn rhannu tarddle yn Gini; llifa Afon Bafing trwy Mali ac mae'r Semefé yn llifo ar hyd y ffin rhwng y wlad honno a Senegal.

Yr afon ger Saint-Louis

Wrth iddi lifo tuag at ei haber, mae afon Senegal yn llifo trwy Biffeche a dinas Saint-Louis ac yna'n troi i'r de. Mae stribyn cul o dywod a enwir yn Langue de Barbarie yn gorwedd rhyngddi a'r Cefnfor Iwerydd ar ran olaf ei chwrs cyn iddi aberu yn y cefnfor hwnnw. Ceir dwy argae fawr ar ei chwrs, sef Argae Manantali sy'n creu Llyn Manantali ym Mali, ac Argae Maka-Diama ar y ffin rhwng Mawritania a Senegal, ger yr aber.

Y prif lednentydd yw Afon Faleme, Afon Karakoro, ac Afon Gorgol.