Afon Purus
Oddi ar Wicipedia
Afon yn Ne America sy'n llifo i mewn i afon Amazonas yw afon Purus . Mae'n 3,590 km o hyd gyda dalgylch o 63.166 km² a llof o 8,400 m³/eiliad ar gyfartaledd.
Ceir ei tharddiad ar uchder o tua 500 medr yn mynyddoedd Contamana yn rhanbarth Ucayali, Periw. Llifa tua'r gogledd-ddwyrain, ac am 38 km mae'n ffirfio'r ffîn rhwng Periw a Brasil, cyn llifo i mewn i Brasil. Mae'n uno a'r Amazonas, a elwir yn afon Solimoes yn y rhan yma o'i chwrs, uwchben Manaus.