Abraxas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Engrafiad o faen sy'n portreadu Abraxas
Am yr albwm roc o 1970 gan Santana gweler Abraxas (albwm).

Gair hynafol o darddiad ansicr, yn wreiddiol yn fformiwla hud a lledrith efallai, a geir wedi ei gerfio fel ar feini ac amwlets o'r Henfyd yw Abraxas (hefyd Abrasax neu Abracax).

Mae ystyr ac arwyddocad yr enw yn amrywio gan ddibynnu ar y traddodiad a'r ffynhonnell. Fe'i ceir yn mhapyri hud a lledrith Groeg o'r canrifoedd cyntaf OC ac mae'n bosibl fod cysylltiad a'r fformiwla hud abracadabra. Digwydd yr enw mewn testunau Gnostig fel Efengyl yr Eifftwyr hefyd, ac am fod llythrennau'r enw yn rhoi cyfanswm o 365 yn ôl y system rhifolion Groegaidd, roedd Abraxas yn dduw'r Flwyddyn i'r Gnosticiaid. Ond mae arwyddocad yr enw wedi newid dros y canrifoedd ac yn enwedig felly yn nwylo ocwltwyr diweddar, gyda rhai yn ei uniaethu a duw o'r Hen Aifft. Mae eraill yn credu mae duw a gyfunai Jehovah a Satan yn un oedd Abraxas a bod yr enw yn tarddu o hen symbol Iddewig am Dduw. Yn nysgeidiaeth y Gnostigwr Basilides o Alexandria (2il ganrif OC), Abraxas yw enw'r Duw goruchel; mae Tertullian yn collfarnu hyn fel heresi.

Sillafiad gwreiddiol y gair, fel y'i ceir ar feini a seliau hynafol, oedd "Abrasax" (Groeg: Αβρασαξ). Ond oherwydd amryfusedd rhwng y llythrennau Groeg Sigma a Xi cafwyd y trawslythreniad Lladin cyfarwydd "Abraxas".

Ar feini ac amiwlets o'r Henfyd a'r Oesoedd Canol, portreadir Abraxas fel creadur cyfansawdd o gorff dynol gyda phen ceiliog, breichau dyn a choesau o seirff.