Gnostigiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mudiad crefyddol seiliedig ar athroniaeth gyfrinol a flodeai yng nghanrifoedd cyntaf Cristnogaeth oedd Gnostigiaeth. Gelwir ei phleidwyr yn Gnostigiaid.

Nodwedd amlycaf y Gnostigiaid oedd eu cred yn y gnosis (gair Groeg sy'n golygu 'gwybodaeth'). Roedd y gnosis yn ddatguddiad cyfrinol o'r realiti dwyfol a roddid i ddisgyblion Gnostig gan Dduw. Roedd y gnosis yn sicrhau Iachawdwriaeth i'r credadyn hefyd.

Amlygai Gnostigiaeth ei hun mewn sawl ffordd ac roedd yn cynnwys elfennau a fenthyciwyd o arferion a defodau hud paganiaid yr Henfyd ac yn arbennig felly crefydd Mesopotamia, Persia a'r Hen Aifft. Gellid ei hystyried ar un ystyr yn barhâd Cristnogol, neu led-Gristnogol, o gwltiau dirgelwch blynyddoedd olaf yr Ymerodraeth Rufeinig (cyltiau Mithras ac Isis, er enghraifft). Nid un mudiad gyda chorff canolog yn ei reoli oedd Gnostigaieth ond yn hytrach casgliad o grwpiau llai. Roedd Cristnogion uniongred a Thadau'r Eglwys fel Tertullian yn eu hystyried yn heretigiaid ac yn eu condemnio'n hallt.

Roedd ganddynt fyd-olwg deuoliaethol: Duw oedd Daioni a'r byd materol yn Ddrygioni. Roeddynt yn gwrthod dynoldeb Crist ac yn credu yn ei ddwyfoldeb yn unig. Credant fod Crist fel ymgnawdoliad o Dduw wedi'i anfon i'r byd er mwyn achub 'gronynnau' o ysbryd (yr enaid, fwy neu lai) oedd wedi'u dal yn y cnawd a'u dallu ganddo. Ar ddiwedd y byd bydd Duw yn anfon Gwaredwr a fydd yn dryllio teyrnas Drygioni am byth.

Cafodd Gnostigiaeth ddylanwad mawr ar sect y Manicheiaid a gwelir ei hôl ar rai o heresïau mawr yr Oesoedd Canol yn ogystal.

Gweler hefyd[golygu]

Philosophy template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.