Aberhonddu (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Aberhonddu yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1885.


Hanes yr Etholaeth[golygu]

Roedd Aberhonddu yn etholaeth seneddol yng Nghymru a oedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin o 1542 hyd iddo gael ei ddiddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1885.

Yn wreiddiol roedd yr Aelod yn cynrychioli rhydd-ddeiliaid holl fwrdeistrefi Sir Frycheiniog, sef tref Aberhonddu, Llywel, Talgarth, Y Gelli Gandryll a Chrucywel, ond erbyn i etholiadau cael eu cystadlu yn y 19eg ganrif dim ond bwrdeiswyr tref Aberhonddu ei hun oedd yn cael pleidleisio, does dim sicrwydd pendant pa bryd y collodd y bwrdeiswyr eraill eu hetholfraint ond tybir ei fod rhywbryd rhwng 1603 a 1715.

Hyd 1727 yr oedd holl ryddfreinwyr Aberhonddu yn cael pleidleisio, lle bynnag yr oeddynt yn byw, ond ym 1727 dyfarnodd Tŷ Cyffredin mai dim ond y rhyddfreinwyr oedd yn byw yn Nhref Aberhonddu oedd yn cael pleidleisio.

Ystyrid nifer o etholaethau bach yn eiddo teuluoedd bonheddig arbennig, perchnogion etholaeth Aberhonddu oedd Teulu Morgan Parc Tredegar. [1] [2]

Diddymwyd yr etholaeth ar gyfer Etholiad cyffredinol 1885 a chynhwyswyd Aberhonddu yn rhan o etholaeth sirol Brycheiniog

Aelodau Seneddol[golygu]

  • 1542 - 1554 Edward Games
  • 1554 - 1555 Meredith Games
  • 1555 -1558 anhysbys
  • 1558 – 1559 William Aubrey
  • 1559 - 1567 Roland Vaughan
  • 1567 – 1571 Syr Roger Vaughan
  • 1571 - 1572 Richard Price
  • 1572 - 1583 Walter Games
  • 1584 - 1593 David Williams
  • 1593 - 1597 Syr Matthew Morgan
  • 1597 - 1601 David Williams
  • 1601 -1614 Syr Henry Williams
  • 1614 - 1620 Syr John Crompton
  • 1620 - 1626 Syr Walter Pye
  • 1626 - 1628 Syr Henry Lynde
  • 1628 – 1640 Walter Pye
  • 1640 - 1653 Herbert Price
  • 1647 - 1653 Ludovic Lewis
  • 1653 – 1658 Dim Cynrychiolydd
  • 1658 - 1659 Samuel Wightwick
  • 1659 - 1660 anhysbys
  • 1660 - 1661 Syr Henry Williams
  • 1661 – 1678 Syr Herbert Price
  • 1678 - 1679 Thomas Mansel
  • 1679 – 1689 John Jeffreys
  • 1689 Thomas Morgan (Wig)
  • 1690 - 1698 Jeffrey Jeffreys
  • 1698 - 1701 Thomas Morgan (Wig ) (Hefyd wedi ei ethol dros Sir Fynwy)
  • 1701 - 1709 Syr Jeffrey Jeffreys
  • 1709 – 1713 Edward Jeffreys
  • 1713 – 1722 Roger Jones
  • 1722 William Morgan (Hefyd wedi ei ethol dros Sir Fynwy)
  • 1723 – 1734 Thomas Morgan
  • 1734 – 1754 Yr Anrhydeddus John Talbot
  • 1754 Thomas Morgan (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Fynwy)
  • 1763 Charles Morgan (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Frycheiniog)
  • 1769, John Morgan (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Fynwy)
  • 1772 -1778 Charles Van
  • 1778 Syr Charles Gould (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Frycheiniog)
  • 1787 Syr Charles Gould Morgan (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Fynwy)
  • 1796 - 1812 Syr Robert Salusbury (Tori)
  • 1812 - 1818 Charles Morgan Robinson Morgan (Wig)
  • 1818 - 1830 George Gould Morgan (Tori)
  • 1830 - 1832 Charles Morgan Robinson Morgan (Wig)
  • 1832 – 1835 John Lloyd Vaughan Watkins (Rhyddfrydwr)
  • 1835 – 1847 Charles Morgan Robinson Morgan (Ceidwadwr)
  • 1847 - 1852 John Lloyd Vaughan Watkins (Rhyddfrydwr)
  • 1852 - 1854 Charles Rodney Morgan (Ceidwadwr)
  • 1854 – 1866 John Lloyd Vaughan Watkins (Rhyddfrydwr)
  • 1866 Chwefror – Hydref Iarll Brycheiniog (Rhyddfrydwr)
  • 1866 - 1868 Howel Gwyn (Ceidwadwr) (etholwyd Howel Gwyn eto ym 1868 ond diddymwyd canlyniad yr etholiad)
  • 1869 Edward yr Arglwydd Hyde (Rhyddfrydwr)
  • 1870 - 1880 James Price William Gwynne-Holford (Ceidwadwr)
  • 1880 – 1885 Cyril Flower (Rhyddfrydwr)

1885 Diddymwyd yr etholaeth

Etholiadau[golygu]

Etholiadau yn y 1830au[golygu]

Etholiad cyffredinol 1832: Etholaeth Aberhonddu [3]

Nifer etholwyr 242

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins 110 51.4
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan 104 48.6
Mwyafrif 6
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1835: Etholaeth Aberhonddu [4]

Nifer etholwyr 309

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan diwrthwynebiad
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1837: Etholaeth Aberhonddu [5]

Nifer etholwyr 339

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan 156 60.5
Rhyddfrydol J L Lloyd 102 39.5
Mwyafrif 6
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1840au[golygu]

Etholiad cyffredinol 1841: Etholaeth Aberhonddu [6]

Nifer etholwyr 331

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan diwrthwynebiad
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1847: Etholaeth Aberhonddu [7]

Nifer etholwyr 304

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins diwrthwynebiad
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn y 1850au[golygu]

Etholiad cyffredinol 1852: Etholaeth Aberhonddu [8]

Nifer etholwyr 336

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Rodney Morgan 159 56.6
Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins 122 43.4
Mwyafrif 37
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Bu farw Charles Rodney Morgan ym 1854 a chynhaliwyd isetholiad ar 6 Chwefror 1854 pan ail-etholwyd John Lloyd Vaughan Watkins yn ddiwrthwynebiad gan gipio'r sedd yn ôl i'r Blaid Ryddfrydol. Ail-etholwyd Watkins yn ddiwrthwynebiad eto yn etholiadau cyffredinol 1857 a 1859.

Etholiadau yn y 1860au[golygu]

Etholwyd J Ll V Lloyd yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1865 ond bu farw yn gynnar ym 1866. Fe'i olynwyd ar ran y Blaid Ryddfrydol gan Iarll Brycheiniog, eto'n ddiwrthwynebiad, mewn isetholiad a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 1866. Dyrchafwyd Iarll Brycheiniog i Dy'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad Ardalydd Camden gan achosi isetholiad arall a gynhaliwyd ar 3 Hydref 1866.

Isetholiad Aberhonddu 1866

Nifer etholwyr 281

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Howel Gwyn 128 55.7
Rhyddfrydol Yr Arglwydd A S Churchill 102 44.3
Mwyafrif 26
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Aberhonddu [9]

Nifer etholwyr 814

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Howel Gwyn 372 51.0
Rhyddfrydol H Powell Price 357 49.0
Mwyafrif 15

Yn dilyn etholiad 1868 danfonwyd deisebau yn erbyn dychwelyd 54 o Aelodau Seneddol oherwydd cyhuddiad o lwgrwobrwyaeth ym mysg y rhain yr oedd deiseb yn erbyn Howel Gwyn. Dyfarnwyd yn erbyn Gwyn a chafodd canlyniad yr etholiad ei ddileu gan achosi isetholiad a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 1869 [10]

Isetholiad Aberhonddu 1869

Nifer etholwyr 814

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Edward, Yr Arglwydd Hyde 391 54.4
Ceidwadwyr Yr Arglwydd Hamilton 328 45.6
Mwyafrif 63
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau'r 1870au[golygu]

Ym 1870 dyrchafwyd Edward, Yr Arglwydd Hyde i Dy'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad Iarll Clarendon a chynhalwyd isetholiad ar 19 Gorffennaf 1870.

Isetholiad Aberhonddu 1870

Nifer etholwyr 814

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr James Price William Gwynne-Holford 372 52.4
Rhyddfrydol H Powell Price 338 47.6
Mwyafrif 34
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth Aberhonddu

Nifer etholwyr 843

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr James Price William Gwynne-Holford 374 51.4
Rhyddfrydol W V Morgan 353 48.6
Mwyafrif 21
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn yr 1880au[golygu]

Etholiad cyffredinol 1880: Etholaeth Aberhonddu [11]

Nifer etholwyr 880

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Cyril Fowler 438 53.6
Ceidwadwyr James Price William Gwynne-Holford 379 46.4
Mwyafrif 59
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  2. Y Bywgraffiadur ar-lein MORGAN (TEULU), Tredegar Park , etc., sir Fynwy http://yba.llgc.org.uk/cy/c-MORG-TRE-1384.html adalwyd Ion 6 2014
  3. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  4. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  5. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  6. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  7. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  8. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  9. Cardiff and Merthyr Guardian 28 Tachwedd 1868 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3096192/ART62 adalwyd Ionawr 6 2014
  10. Seren Cymru 18 Rhagfyr 1868 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3198026/ART42 adalwyd Ion 6 2014.
  11. Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981