Škoda Auto
| Škoda Auto | |
|---|---|
| Math | Cwmni preifat, is-gwmni o Volkswagen AG |
| Sefydlwyd | 1895 fel Laurin & Klement |
| Sylfaenydd | Václav Laurin a Václav Klement |
| Pencadlys | |
| Nifer lleoliadau | 6 gweithfeydd (4 yn Ewrop, 2 yn India) |
| Ardal wasanaethu | Byd-eang (heblaw Gogledd America) |
| Pobl blaenllaw | Reinhard Jung Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr Hans Dieter Pötsch Cadeirydd y Bwrdd Orychwylio |
| Diwydiant | Ceir |
| Cynnyrch | Ceir |
| Gwasanaethau | Ariannu ceir |
| Refeniw | |
| Incwm net | |
| Gweithwyr | 27,680 (2007)[1] |
| Rhiant-gwmni | Volkswagen AG |
| Gwefan | Škoda-Auto.com |
Gwneuthurwr ceir o'r Weriniaeth Tsiec ydy Škoda Auto, a adnabyddir yn gyffredin fel Škoda. Daeth Škoda yn is-gwmni o'r Volkswagen AG ym 1991. Cyrhaeddodd cyfanswm eu gwerthiant 684,226 o geir yn 2009.
Hanes [golygu]
Mae gwreiddiau Škoda yn mynd yn ôl i'r 1890au cynnar pan ddechreuodd y cwmni, yn debyg i nifer o wneuthurwyr ceir eraill ar y pryd, yn cynhyrchu beiciau. Ym 1894, roedd Václav Klement yn werthwr llyfrau 26-oed yn Mladá Boleslav, Gweriniaeth Tsiec heddiw, a oedd yn rhan o Awstria-Hwngari ar y pryd. Ni lwyddodd i gael gafael ar ddarnau er mwyn trwsio ei feic Almaenig, felly dychwelodd Klement y beic i'r gwneuthurwyr, Seidel and Naumann, gyda llythyr mewn Tsieceg yn gofyn iddynt ei drwsio. Derbyniodd ateb yn Almaeneg yn datgan os byddai eisiau ateb i'w ymholiad dylai gysylltu mewn iaith y gallent ddeallt. Roedd Klement wedi ei ffieiddio, ac er nad oedd ganddo'r brofiad dechnegol, penderfynodd ddechrau siop trwsio beiciau, a sefydlodd hwn gyda Václav Laurin ym 1895 yn Mladá Boleslav. Cyn dechrau'r bartneriaeth fusnes gyda Klement, roedd Laurin eisoes yn wneuthurwr beiciau sefydledig o dref Turnov gerllaw.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Skoda Auto and unions agree pay and conditions deal. business.maktoob.com. Adalwyd ar 7 Mehefin 2008.
Dolenni allanol [golygu]
- Skoda-Auto.com, gwefan corfforaethol
- Skoda y DU
- Skoda Awstralia