Volkswagen AG

Oddi ar Wicipedia
Volkswagen AG
Enghraifft o'r canlynolcorfforaeth amlieithog, uwchgwmni, busnes, cynhyrchydd cerbydau, cwmni cyhoeddus Edit this on Wikidata
Rhan oDAX, CDAX, S&P Global 100, Euro Stoxx 50, DivDAX, DivDAX, DivDAX, DivDAX, DAX, DivDAX Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu28 Mai 1937 Edit this on Wikidata
LleoliadGorllewin yr Almaen Edit this on Wikidata
PerchennogPorsche Automobil Holding SE, Qatar Investment Authority, Hannoversche Beteiligungsgesellschaft Edit this on Wikidata
Prif weithredwrOliver Blume Edit this on Wikidata
SylfaenyddGerman Labor Front Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean Movement Germany, Open Automotive Alliance, World Wide Web Consortium, Association of German Transport Companies, Wi-Fi Alliance, Deutsches Institut für Normung, German Road Safety Council, ICC Germany, Verband der Automobilindustrie, Asien-Pazifik-Ausschuss der Deutschen Wirtschaft, Ostausschuss der Deutschen Wirtschaft, Deutsches Aktieninstitut, International Data Spaces, VDMA, Afrika-Verein, American Chamber of Commerce in Germany, Atlantik-Brücke, Bundesvereinigung Logistik, Q1202926, Deutsche Gesellschaft für Personalführung, Deutsche Gesellschaft für Qualität, Deutsche Vereinigung für Wasserwirtschaft, Abwasser und Abfall, Q1205488, Deutsches Rechnungslegungs Standards Committee, Q110736624, DIRK e.V., European Telecommunications Standards Institute, European Business Aviation Association, Research Association for Combustion Engines, Cymdeithas Fraunhofer, Gegen Vergessen – Für Demokratie, Q1318481, Gesellschaft für Datenschutz und Datensicherheit, Institute of Business Ethics, Laser Zentrum Hannover, Leibniz Universitätsgesellschaft Hannover e.V., Q1205091, Max Planck Society, German Asia-Pacific Business Association, Presse Club Hannover, Stifterverband für die Deutsche Wissenschaft, Q2513582, German business travel association, Q28819953, 5G Automotive Association e.V, Association of German Engineers, Ausschuss für Wirtschaftliche Verwaltung, DECHEMA, Automobilclub von Deutschland, Canolfan Awyrofod yr Almaen, European Automobile Manufacturers Association, Kulturkreis der deutschen Wirtschaft, ITU Telecommunication Standardization Sector Edit this on Wikidata
Gweithwyr672,800 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auAudi, Automobili Lamborghini S.p.A., Bentley, Bugatti, MAN SE, Scania, SEAT, Škoda Auto, Italdesign Giugiaro, Skoda Auto Volkswagen India, Porsche, Volkswagen Group of America, Volkswagen do Brasil, Audi Sport, Volkswagen Group Rus, Volkswagen Finance Luxemburg, Volkswagen (China) Investment Company, Carmeq, Digiteq Automotive, ŠkoFIN, Porsche Bank România, Porsche Česká republika, Porsche Engineering, Data:Lab Munich, Volkswagen Group Components, MOIA, Volkswagen Slovakia, Volkswagen, Volkswagen Argentina, Porsche Holding, Q116170621 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadPorsche Automobil Holding SE Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolAktiengesellschaft Edit this on Wikidata
Cynnyrchcar, lori, van, beic modur Edit this on Wikidata
Incwm7,103,000,000 Ewro Edit this on Wikidata 7,103,000,000 Ewro (2016)
Asedau409,732,000,000 Ewro Edit this on Wikidata 409,732,000,000 Ewro (31 Rhagfyr 2016)
PencadlysWolfsburg Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.volkswagenag.com/, https://www.volkswagenag.com/de.html, https://www.volkswagenag.com/en.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cwmni gweithgynhyrchu ceir Almaenig ydy Volkswagen Aktiengesellschaft neu Volkswagen AG yn fyr (Cymraeg: Grŵp Volkswagen neu Grŵp VW)[1] a adnabyddwyd gynt fel VAG[2]).

Yn 2016, Volkswagen AG gynhyrchodd y nifer fwyaf o geir ledled y byd, gan oddiweddu Toyota.[3] ef hefyd oedd 7fed cwmni mwya'r byd yn 2016.[4]

Mae eu rhiant gwmni Volkswagen Aktiengesellschaft,[5] (VOW3) a gyfeirir atynt weithiau fel VW AG[6] neu VWAG,[7][8] yn datblygu cerbydau a chydrannau ar gyfer pob gwneuthuriad y grŵp, a hefyd yn cynhyrchu ceir cyfan ar gyfer gwneuthuriad Ceir Teithwyr Volkswagen a Cherbydau Masnachol Volkswagen.[5] Mae Volkswagen AG wedi ei rannu'n ddwy brif adran: yr adran Automotive, a'r adran Gwasanaethau Ariannol.[5] Mae 342 o is-gwmniau'n rhan o'r grŵp, sy'n ymwneud â chynhyrchu cerbydau neu wasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â cherbydau.[5]

Er fod y grŵp yn gweithredu'n fyd eang, marchnad graidd Volkswagen yn bennaf yw Ewrop. O'u holl brandiau moduron, ceir teithwyr Volkswagen yw'r gwneuthuriad sydd yn fwyaf adnabyddus, mae is-gwmniau'r grŵp yn cynnwys gwneuthuriad ceir megis SEAT, Škoda, yn ogystal â gwneuthuriadau ceir bri Audi, Lamborghini, Bentley, a Bugatti. Mae'r grŵp hefyd yn gweithredu ym maes cerbydau masnachol, ac yn berchen ar Gerbydau Masnachol Volkswagen yn ogystal â fod yn berchennog ar gyfran rheoli y gwneuthurwyr tryciau a cherbydau disl Swedaidd, Scania AB, a chyfran 29.9% yng nghwmni MAN SE.

Marchnad ail-fwyaf Volkswagen yw Tsieina, lle eu is-gwmni, Volkswagen Group China (VGC), yw'r menter gwneuthurwyr ceir ar y cyd mwyaf o gryn dipyn, gan werthu dros filiwn o gerbydau yn 2008.[5]

Y Volkswagen Golf yw'r car sy'n gwerthu'n drydydd orau yn y byd, gan werthu dros 26 miliwn yn 2008.[5] Yn 2009, gwerthodd Volkswagen 6.29 miliwn o gerbydau, gan ennill 11% o farchnad ceir teithwyr y byd.

Noddodd Volkswagen AG rai chwaraeon megis Gemau Olympaidd 2008, clybiau pêl-droed Vfl Wolfsburg, David Beckham Academy, ac eraill.

Ym mis Awst 2009, cyrhaeddodd Porsche SE a Volkswagen AG gytundeb y buasai Volkswagen AG a Porsche AG yn cyfuno yn 2011.[9][10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Hans Dieter Pötsch; Detlef Wittig (30 Gorffennaf 2009). Presentation on the Half-Yearly Financial Report 2009. Volkswagenag.com. Volkswagen AG. Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2009.
  2.  Bertel Schmitt (16 Mai 2009). VW/Porsche: Auto Union? What the NSFW?. TheTruthAboutCars.com. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2009.
  3. "NEW PASSENGER CAR REGISTRATIONS BY MANUFACTURER EUROPEAN UNION (EU)". ACEA. 16 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol (XLS) ar 3 Chwefror 2013. Cyrchwyd 15 Mawrth 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Nice Try VW: Toyota Again World's Largest Automaker". Fortune. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-10. Cyrchwyd 3 Medi 2016.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5  Volkswagen Aktiengesellschaft - 2008 Annual Report. VolkswagenAG.com. Volkswagen Aktiengesellschaft (22 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 12 Mawrth 2009.
  6.  Debt Investor Presentation - Commerzbank. Volkswagen AG (2005-09-20). Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2009.
  7.  Case details for Community Trade Mark E1064997 - VWAG. IPO.gov.uk. United Kingdom Intellectual Property Office (Reviewed 8 Medi 2009). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2009.
  8.  Trademark Useage Guide. VWtrademarks.com. Volkswagen Aktiengesellschaft. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2009.
  9.  Volkswagen Supervisory Board approves Comprehensive Agreement for an Integrated Automotive Group with Porsche. Volkswagen Aktiengesellschaft (13 Awst 2009). Adalwyd ar 22 Tachwedd 2009.
  10.  Porsche Supervisory Board agrees on the contracts of implementation. Porsche Automobil Holding SE, Stuttgart (20 Tachwedd 2009). Adalwyd ar 22 Tachwedd 2009.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]