Galfanomedr

Oddi ar Wicipedia
Galfanomedr
Mathamedr, analog measuring instrument Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen galfanomedr D'Arsonval.

Offeryn i ganfod a mesur cerrynt trydanol bychan yw galfanomedr.[1] Mae'n defnyddio coil symudol sydd yn gwyro o ganlyniad i rymoedd y cerrynt.

Y math cyffredinaf ydy galfanomedr D'Arsonval sydd yn defnyddio coil o wifren ysgafn a grogir o ruban metel rhwng pegynau magnet sefydlog. Cynhyrchir maes magnetig wrth i'r cerrynt mynd drwy'r coil, sydd yn adweithio i faes magnetig y magnet sefydlog ac yn cynhyrchu trorym. Cysylltir nodwydd neu ddrych at y coil, ac mae'r hon yn nodi mesuriad y cerrynt yn ôl yr ongl y mae'r coil yn troi i gloriannu dirdro y crogiant. Mesurir yr ongl gan ogwydd y nodwydd neu gan allwyriad pelydryn golau a adlewyrchir yn y drych.[2] Yn ôl deddf Hooke, mae trorym y wifren mewn cyfrannedd ag ongl y troad, ac felly mae ongl y nodwydd neu'r pelydryn yn gyfatebol i'r cerrynt.

Math arall ydy'r galfanomedr balistig, sydd yn defnyddio nodwydd neu ddrych sydd yn gwyro yn gyfatebol i'r wefr drydanol sydd yn symud drwy'r coil, neu yn gyfatebol i bwls y foltedd am gyfnod byr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  galfanomedr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mehefin 2020.
  2. (Saesneg) Galvanometer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mehefin 2020.