Ystên Sioned

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clawr blaen darluniedig Ysten Sioned (3ydd argraffiad, Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1894)

Llyfr hynod a olgywyd gan Daniel Silvan Evans (1818-1903) a John Jones ("Ivon") yw Ystên Sioned. Ei deitl llawn yw Ysten (sic) Sioned: neu Y Gronfa Gymmysg, ac mae'n dwyn yr arwyddair Pob sorod i'r god ag ef (dihareb ar gynghanedd). Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1882 gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, a chafwyd sawl argraffiad arall yn negawdau olaf y 19g.

Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyr ystên yw "piser, bwced, llestr".[1] Mae'r geiriadurwr John Walters (1721-1797)yn nodi enghraifft o'r enw ystên Sioned yn ei Welsh-English Dictionary 1773 ac yn rhoi'r diffiniad, Gallimaufry, medley, jumble.[1] Dipyn bach o bopeth, felly. Fel y mae'r enw yn awgrymu, digon cymysgryw ydyw cynnwys y llyfr ei hun. Ceir ynddo detholiad o chwedlau gwerin a straeon ysbryd o sawl ffynhonnell, rhai ohonynt wedi'u codi o enau gwerinwyr, ynghyd â cherddi a phenillion a darnau eraill.

Roedd Ystên Sioned yn llyfr poblogaidd iawn yn ei ddydd ac mae'n nodweddiadol o'i gyfnod fel llyfr ar gyfer y werin sy'n ceiso bod yn ddifyr ac eto ar yr un pryd yn addysgol. Erys yn gyfrol werth ei darllen heddiw, am ei chynnwys ac am ei diddordeb hanesyddol a chymdeithasol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]