Ysgol Cerrigydrudion
Gwedd
Ysgol gynradd sirol naturiol Gymraeg ym mhentref Cerrigydrudion yn ardal Uwchaled, Sir Conwy yw Ysgol Cerrigydrudion. Mae'n gwasnaethu plant rhwng 4 ac 11 oed yn llawn amser, a phlant 3–4 oed yn rhan amser.
Yn 2004, roedd 69 o ddisgyblion llawn amser ar y gofrestr, a daeth 80% ohonynt o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith.[1]
Mae adeiladau'r ysgol yn rhan o gampws Canolfan Gymunedol Cerrigydrudion, a rhennir rhai adnoddau, megis y neuadd fawr, gyda'r gymuned.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Adroddiad arolygiad YsgolGynrad Cerrigydrudion, 24–26 Mai 2004. Estyn (27 Gorffennaf 2004).