Ysbyty Sili

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ysbyty Sili
Hayes Point.jpg
Math adeilad ysbyty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4002°N 3.23675°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Hen Ysbyty ym mhentref Sili yw Ysbyty Sili. Fe'i caewyd fel Ysbyty yn 2001 ac mae'r adeilad bellach wedi'i droi'n fflatiau moethus dan yr enw Hayes Point. Mae'r adeilad yn nodedig fel un o engrheifftiau gorau o bensaernïaeth art deco yng Nghymru.

Adeiladwyd yr Ysbyty yn wreiddiol rhwng 1932-36 fel ysbyty ar gyfer trin y diciâu. Fodd bynnag, cafodd ei ddefnyddio ar gyfer trin ystod o glefydau eraill. Rhestrwyd yr adeilad yn 1990.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]