Yoshiwara
Gwedd
| Math | Ardal golau coch |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 35.724°N 139.7957°E |
![]() | |
Roedd Yoshiwara yn ardal bleser ac adloniant yn hen ddinas Edo (Tokyo heddiw) a anfarwolwyd gan arlunwyr bloc print ukiyo-e fel Utamaro.
Mae ardal Yoshiwara yn dal i fod yn Tokyo heddiw, ond mae'r hen chwarter wedi diflannu am byth; fel sawl ardal arall yn y brifddinas cafodd ei llosgi'n ulw yn ystod cyrchoedd bomio o'r awyr yr Americanwyr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Serch hynny mae Yoshiwara yn adnabyddus o hyd fel un ardaloedd golau coch mwyaf Japan.

