Ynys Melville

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Melville

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Melville, sy'n un o Ynysoedd Queen Elizabeth. Mae ganddi arwynebedd o 42.149 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, rhennir yr ynys rhwng Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin a Nunavut.

Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd fforwyr Prydeinig dan William Edward Parry, a dreuliodd aeaf 1819-20 yma. Enwyd hi ar ôl Robert Dundas, 2ail Feicownt Melville (1771–1851).