Ymosodiad yn Arena Manceinion, Mai 2017

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°29′17″N 2°14′38″W / 53.48806°N 2.24389°W / 53.48806; -2.24389

Arena Manceinion, neu'r Manchester Arena, yn 2010. Ei henw yn 2010 oedd y Manchester Evening News Arena.

Roedd Ymosodiad yn Arena Manceinion, Mai 2017 yn achos o hunanfomio a ddigwyddodd ar 22 Mai 2017 ym Manceinion, Lloegr.[1] Credir mai un dyn, Salman Abedi, [1] yn gweithio ar ei liwt ei hun, oedd yr hunanfomiwr, ond mae hefyd yn bosib fod eraill wedi'i gynorthwyo.

Digwyddodd yr ymososiad yng nghyntedd yr Arena, tua 22:30, ar ddiwedd cyngerdd gan Ariana Grande; roedd y perfformiad yn rhan o'i thaith: Dangerous Woman Tour. Lladdwyd 23 o bobol, yn cynnwys y bomiwr, ac anafwyd 59.[2][3][4]

Mae'r heddlu'n trin yr ymosodiad fel 'digwyddiad terfysgol'; os caiff hyn ei gadarnhau, yna dyma'r ail ddigwyddiad terfysgol yn 2017, yn dilyn yr ymosodiad ar Westminster ar 22 Mawrth.

Ymateb[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwodd y Prifweinidog Theresa May y digwyddiad yn "ymosodiad terfysgol ofnadwy" ("appalling terrorist attack") a chadeiriodd gyfrafod o COBRA y bore canlynol.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]