Ymosodiad Liège, 2011
Gwedd
| Enghraifft o: | cyflafan, saethu torfol |
|---|---|
| Dyddiad | 13 Rhagfyr 2011 |
| Lleoliad | Liège |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0hr5z7z |
Ymosodiad yn Ninas Liège, Gwlad Belg ar Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2011 oedd ymosodiad Liège, 2011, pan laddwyd 6 o bobl. Y llofrudd, a laddodd ei hun yn ddiweddarach, oedd Nordine Amrani, oedd yn 33 mlwydd oed. Defnyddiodd grenadau llaw a gwn i wneud y gwaith. Yn gynharach y bore hwnnw, roedd o wedi lladd dynes 45 mlwydd oed yn ei fflat a oedd yn lanhawraig mewn fflat gyfagos.
