Neidio i'r cynnwys

Y glymog ddu

Oddi ar Wicipedia
Fallopia convolvulus
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Polygonaceae
Genws: Fallopia
Rhywogaeth: F. convolvulus
Enw deuenwol
Fallopia convolvulus
Carl Linnaeus
Cyfystyron

Polygonum convolvulus L.

Planhigyn blodeuol cosmopolitan, lluosflwydd yw Y glymog ddu sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Polygonaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Fallopia convolvulus a'r enw Saesneg yw Black-bindweed.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Taglys yr ŷd, Perthlys, Ytag.

Mae hefyd yn blanhigyn bytholwyrdd.

Ecoleg a chadwraeth

[golygu | golygu cod]

Bu i arolygon dros yr hanner canrif ddiwethaf o fflora y DU ddangos bod 17 allan o’r 25 rhywogaeth sy’n dangos y gostyngiad tymor-hir mwyaf yn rhai sy’n nodweddiadol neu yn gyfyngedig i gynefinoedd tir ȃr. Mae rhain yn cynnwys un neu ddwy o rywogaethau sy’n dal yn lleol-gyffredin yng Nghymru, fel Troellig yr ŷd(Spergula arvensis) a Taglys yr ŷd (= y Glymog ddu) Fallopia convolvulus).

Mae Cloc y dyn tlawd (Llysiau'r Cryman Anagallis arvensis) a Fflamgoed fach yr ŷd (= Corlaethlys[2]) er enghraifft yn tyfu ym mhen talar na chafodd ei chwistrellu, ar fferm ger Flemingston ym Mro Morgannwg.

Mae planhigion eraill ar y rhestr mewn peryg difrifol (PD) neu mewn peryg (P) o ddifodiant yng Nghymru, e.e., Crafanc yr ŷd (Ranunculus arvensis), Crib Gwener (Scandix pecten-veneris) a Dinodd Blynyddol (Scleranthus annuus). Mae y ‘rhestr goch’ o blanhigion sydd mewn peryg yng Nghymru hefyd yn cynnwys Gwylaeth-yr-oen llyfn (Valerianella rimosa) (PD) a Gludlys amryliw (Silene gallica) (P). Bellach mae hydnoed planhigion a ystyrid yn lled gyffredin a niferus ar un adeg, fel y Pabi coch cyffredin (Papaver rhoeas) a Melyn yr ŷd (Chrysanthemum segetum), yn llawer iawn llai amlwg yn y tirlun Cymreig erbyn hyn. Ym mysg y cnydau sydd brinaf o ran eu planhigion tir ȃr mae tatws, India corn a haidd. Bydd y rhain fel arfer erbyn hyn yn cael eu chwistrellu’n drwm ȃ chwynladdwyr a phlaladdwyr eraill, sy’n golygu na rodda y cnydau hyn gyfle i’r planhigion na’r creaduriaid gwyllt eraill a ddisgwylir eu gweld ar dir ȃr yng Nghymru[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. https://llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Euphorbia%20exigua>Euphorbia exigua
  3. Hurford, C (2025) Fferm a Thyddyn, rhif 76 (2025), tud. 6-9
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: