Y Goedwig Gawraidd
Math | coedwig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Sequoia |
Sir | Tulare County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 7.6 km² |
Uwch y môr | 6,972 troedfedd |
Cyfesurynnau | 36.5624°N 118.751°W |
Mae'r Goedwig Gawraidd (Giant Forest) yn rhan arbennig o Barc Cenedlaethol Sequoia, sy'n enwog am ei choed Sequoia Cawraidd. Gorwedd y goedwig ar uchder o 1,800 medr (6000 troedfedd) yng ngorllewin Sierra Nevada, yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America.
Yr ardal
[golygu | golygu cod]Dywedir fod y Goedwig Gawraidd yn cynnwys pump allan o'r 10 coeden fwyaf yn y byd o ran eu sylwedd pren, gan gynnwys yr un fwyaf oll, sef Coeden General Sherman, gyda chylch o 11.1 meder (36.5 troedfedd) yn ei bôn.
Mae'n gorwedd yn agos i'r Ogof Grisial, Carreg Moro a Dôl Cryman. Mae pen gorllewinol y High Sierra Trail sy'n croesi'r Sierra Nevada i Fynydd Whitney ger Dôl Cryman.
Bywyd gwyllt
[golygu | golygu cod]Mae'r binwydden Ponderosa, Pinwydden Jeffrey, Pinwydden Siwgr, a'r binwydden gamfrig yn goed cyffredin yno, ynghyd â'r Ffynidwydden Wen a'r Ffynidwydden Goch. Gwelir ceirw asen (mule deer), gwiwerod Douglas, a'r Arth Ddu Americanaidd yn aml yn y cyffiniau.
Ddoe a heddiw
[golygu | golygu cod]Ar un adeg roedd dros 300 o dai ac adeiladau eraill yno ond heddiw dim ond pedwar adeilad sydd ar ôl a chyfyngir gweithgareddau i ymweliadau dydd yn unig
Mynediad
[golygu | golygu cod]Mae ffordd yn cysylltu'r ardal â Fresno a Visalia. Mae priffordd y parc yn rhedeg o'r goedwig i Parc Cenedlaethol Kings Canyon a Llwyn Grant, cartref Coeden General Grant a sequoias eraill.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Map o'r Parc Sequoia Archifwyd 2006-12-29 yn y Peiriant Wayback
- Map o'r ardal Archifwyd 2007-01-07 yn y Peiriant Wayback
- NPS - Hanes y Goedwig Archifwyd 2007-01-07 yn y Peiriant Wayback
- NPS - Hanes adfer y goedwig Archifwyd 2007-01-01 yn y Peiriant Wayback