Y Glerorfa

Oddi ar Wicipedia
Y Glerorfa yng Ngŵyl Tegeingl, 2010. Llun gan Llinos Lanini(www.llinoslanini.com)

Sefydliad y Glerorfa[golygu | golygu cod]

Trefnir Y Glerorfa gan Clera, Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru, cymdeithas a sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dinefwr 1996. Tyfodd y Glerorfa o weithdai’r Gymdeithas – gweithdai mewn gwahanol rannau o Gymru dros gyfnod o ddeng mlynedd lle’r oedd aelodau yn dysgu alawon traddodiadol, dysgu sgiliau offerynnol, a dysgu sut i’w chwarae yn yr arddull draddodiadol. Ar gyfer pen blwydd Clera yn 10 oed yn Nhachwedd 2006 daeth 40 o’r offerynwyr gorau o’r Gweithdai hyn ynghyd, a chreu cyngerdd yn Galeri, Caernarfon ac awgrymwyd yr enw Clerorfa – gyda thafod yn y boch i ddechrau, ond yna fe ddechreuodd yr enw gydio. Ni fwriadwyd parhad y Glerorfa ymhellach na’r un noson honno, ond cymaint oedd brwdfrydedd y gynulleidfa y noson honno fel y penderfynwyd y byddai’n rhaid dal ati.

Nod y Glerorfa[golygu | golygu cod]

Y Glerorfa yng Ngŵyl Tegeingl, 2012. Llun gan Ray Roberts

Cyflwyno alawon traddodiadol Cymru, yn ogystal ag alawon gwerin gwreiddiol, mewn dull newydd, bywiog a chyffrous. Hefyd, i adfer parch ymhlith y Cymry yn gyffredinol, a’r cyfryngau darlledu yn arbennig, tuag at gerddoriaeth draddodiadol Cymru, ac i ddangos fod modd i bobl ifanc ei fwynhau lawn cymaint ag unrhyw un arall.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Roedd gan y Glerorfa 40 aelod yn y Galeri yn 2006. Mae cyfanswm yr aelodau'n nes at 70 erbyn hyn, ac yn dod o bob rhan o Gymru. Mae'r nifer ar gael yn amrywio pob tro; nid yw’r swyddogion yn derbyn unrhyw wahoddiad os nad oes o leiaf 35 yn barod i ymrwymo i’r perfformiad. Mae oedran yr aelodau'n amrywio o 10 i 70, ac mae 30% o’r aelodau o dan 25 oed. Un aelod yn unig sydd yn offerynnwr proffesiynol, ond mae tua 10 yn gwneud eu bywoliaeth yn y byd cerdd – yn athrawon teithiol, darlithydd prifysgol, tiwtoriaid a threfnyddion cerdd, ac ati. Mae elfen deuluol gref yn perthyn i’r Glerorfa, gyda hyd at 10 grŵp teuluol; ac mae 90% o’r Glerorfa yn Gymry Cymraeg. Mae Stephen Rees a Robin Huw Bowen wedi bod yn gyfarwyddwyr artistig, a Sioned Webb ac Arfon Gwilym yn gweinyddwyr i'r Glerorfa.

Repertoire[golygu | golygu cod]

Mae repertoire y Glerorfa yn gynnwys cerddoriaeth draddodiadol ac wreiddiol, er yn draddodiadol eu harddull a’u naws. Mae’r setiau hefyd yn cynnwys canu a dawnsio – canu gwerin a cherdd dant, a grŵp o tua chwech clocsiwr.

Recordiad[golygu | golygu cod]

Y Glerorfa yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.Llun gan Llinos Lanini(www.llinoslanini.com)

Y Glerorfa Yn Fyw SAIN SCD 2607

  • Gwreiddiau: Glan Camlad / Llwyn Onn / Rhif Wth
  • Set Jeff: Y Pibydd Du / Y Lili / Breuddwyd Dafydd Rhys / Melyn Llynon / Jig Mabsant / Jigolo
  • Hen Ffefrynnau: Ton Carol / Cader Idris / Y Ferch O Blwy’ Penderyn / Yn Iach Iti Gymru
  • Cardis / Can Crwtyn Y Gwartheg
  • Aly Brechdan Y Gwningen Gymreig / Rachel Ty Gam / Diffyrwch Gwyr Dyfi
  • Pibgamu: Mympwy Llwyd / Nyth Y Gwcw / Pibdawns Dowlais
  • Ymadawiad Y Brenin
  • Morgawr / Swing Sling / Nos Sadwrn Bach
  • Y Geinach Las: Hobed O Hilion / Hela’r Geinach / Y Gofid Glas
  • Erddigan: Hun Gwenllian / Ymdaith Gwyr Cyfarthfa / Aden Y Fran Ddu
  • Trensiwr: Walts Ar Drensiwr / Yr Hwch Yn Yr Haidd / Cig Ar Drensiwr / Dic Sion Dafydd / Dopsi Mon / Y Dydd Cyntaf O Awst
  • Y Derwydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gwefan Clera

Gwefan Sain Archifwyd 2014-07-01 yn y Peiriant Wayback.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan y Glerorfa[dolen marw]