Y Derwyddon: Cystudd y Cyfiawn

Oddi ar Wicipedia
Y Derwyddon: Cystudd y Cyfiawn
Enghraifft o'r canlynolalbwm o gomics Edit this on Wikidata
AwdurJean-Luc Istin a Thierry Jigourel
CyhoeddwrDalen
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781906587321
DarlunyddJacques Lamontagne
GenreFfuglen
CyfresY Derwyddon: 6

Nofel graffig i oedolion (teitl gwreiddiol Ffrangeg: Les Druides: Crépuscule) gan Jean-Luc Istin a Thierry Jigourel (stori) a Jacques Lamontagne (darluniau), wedi'i haddasu i'r Gymraeg gan Alun Ceri Jones yw Y Derwyddon: Cystudd y Cyfiawn. Dalen a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2014.[1]

Yn dirwyn cyfres y Derwyddon i ben, mae ymchwil y derwydd Gwynlan i lofruddiaethau mynachod o eglwys Geltaidd y 6g yn ei gludo dros ddyfroedd rhynllyd i geisio'r Pair Dadeni. Gyda'i wrthwynebwyr mileinig yn dynesu a llid y duwiau'n llenwi'r wybren, daw'n amlwg pwy yw ei elynion annisgwyl.



Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.