Y Brodyr Coen

Oddi ar Wicipedia
Mae "Joel Coen" yn ail-gyfeirio i'r erthygl hon ; nid i'w gymysgu â Joel Cohen.
Y Brodyr Coen yng Ngwyl Ffilmiau Cannes

Mae Joel Coen a Ethan Coen, a gânt eu hadnabod yn broffesiynol fel y Brodyr Coen, yn gynhyrchwyr ffilm Americanaidd.

Am dros ugain mlynedd, mae'r ddau ohonynt wedi ysgrifennu a chynhyrchu nifer o ffilmiau llwyddiannus, yn amrywio o gomedïau (O Brother, Where Art Thou?, Raising Arizona, The Hudsucker Proxy) i ffilmiau mwy dwys (Miller's Crossing, Blood Simple, The Man Who Wasn't There, No Country for Old Men), a ffilmiau lle mae'r genres yn ymblethu drwy'i gilydd: (Fargo, The Big Lebowski, Barton Fink a Burn After Reading). Mae'r brodyr yn ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu eu ffilmiau ar y cyd; tan yn ddiweddar cawsai Joel ei ystyried fel y cyfarwyddwr a Ethan fel y cynhyrchydd. Cânt eu hadnabod yn y diwydiant ffilm fel y "cyfarwyddwr deuben", am fod gan y ddau ohonynt weledigaeth debyg o ran ffilmiau.

Gall actorion ofyn cwestiwn i'r naill frawd neu'r llall a chael yr un ateb.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "O Coen brothers, where art thou going to put the Oscar?". The Sunday Times. 2008-02-24. Adalwyd 2008-02-25.