Witches of East End (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
'Witches of East End'
Seiliwyd ar Witches of East End gan Melissa de la Cruz
Genre Drama oruwchnaturiol
Ffantasi
Comedi-drama
Datblygwyd gan Maggie Friedman
Cyfarwyddwyd gan Wendy Melvoin, Lisa Coleman, Peter Nashal (peilot yn unig)
Serennu Julia Ormond, Mädchen Amick, Jenna Dewan Tatum, Rachel Boston, Daniel Di Tomasso, Christian Cooke, Eric Winter
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 16 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd
gweithredol
Maggie Friedman, Erwin Stoff (peilot yn unig), Jessica Tuchinsky (peilot yn unig), Mark Waters (peilot yn unig)
Cynhyrchydd Kelly A. Manners (peilot yn unig), Shawn Williamsom
Lleoliad(au) Wilmington, Gogledd Carolina (peilot yn unig), Vancouver, British Columbia, Canada
Amser rhedeg 43 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
3 Arts Entertainment, Curly Girly Productions, Fox 21
Darllediad
Sianel wreiddiol Lifetime
Darllediad gwreiddiol 6 Hydref 2013
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Cyfres deledu drama oruwchnaturiol Americanaidd yw Witches of East End. Seilir y gyfres ar y llyfr o'r un enw gan Melissa de la Cruz.[1] Darlledwyd y gyfres gyntaf ar Lifetime 6 Hydref 2013.[2] Mae'r gyfres yn dilyn teulu o wrachod - Joanna Beauchamp (Julia Ormond) a'i dwy merch Freya Beauchamp (Jenna Dewan Tatum) ac Ingrid Beauchamp (Rachel Boston), yn ogystal â'i chwaer Wendy Beauchamp (Mädchen Amick), oll yn oedolion. Maent yn byw mewn tref ffug ar lan y môr o'r enw 'East End'.

Ar 22 Tachwedd 2013, cadarnhawyd bod Lifetime Witches of East End wedi ariannu ail gyfres o 13 pennod,[3] a ddarllenwyd gyntaf ar 6 Gorffennaf 2014.[4]

Darllediadau[golygu | golygu cod]

Darlledwyd Witches of East End yn y Deyrnas Unedig ar 5 Tachwedd 2013 gyntaf, ar ail noson y sianel deledu newydd i'r DU, Lifetime UK.[5] Yn Awstralia, darlledwyd Witches of East End gyntaf ar Eleven ar 4 Awst 2014.[6]

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Mae'r cyfresi'n serennu Julia Ormond yn brif gymeriad o'r enw Joanna Beauchamp, gwrach a mam Freya Beauchamp (Jenna Dewan Tatum) ac Ingrid Beauchamp (Rachel Boston), sy'n rhan o'r genhedlaeth nesaf o wrachod. Cyd-serenna Mädchen Amick yn chwaer chwareus a gwrach o'r enw Wendy Beauchamp. Seiliant hwy ar blot y llyfr, gydag un newid, sef nad yw Freya nac Ingrid yn gwybod am eu pwerau hudol nhw i ddechrau.[7]

Cast a chymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Julia Ormond fel Joanna Beauchamp, chwaer hŷn Wendy, mam Ingrid a Freya. Mae sawl pŵer hudol ganddi.
  • Mädchen Amick fel Wendy Beauchamp, chwaer iau Joanna, modryb Ingrid a Freya. Mae gan Wendy y pŵer i weddnewid yn anifail.[a]
  • Jenna Dewan Tatum]] fel Freya Beauchamp, chwaer iau Ingrid. Mae ganddi'r pŵer i greu edlyn (diod hudol) cryf iawn.
  • Rachel Boston fel Ingrid Beauchamp, chwaer hŷn Freya. Hi ydyw un o'r gwarchod mwyaf grymus a chanddi'r gallu i ysgrifennu swynion nad ydynt yn bodoli eto.
  • Daniel Di Tomasso fel Killian Gardiner, brawd iau Dash.
  • Eric Winter fel Dash Gardiner, cyn-ddarpar ŵr Freya a brawd hŷn Killian.
  • Christian Cooke fel Frederick Beauchamp (cyfres 2), gefell a brawd iau Freya ac Ingrid.[4]

Nodiadau: a^ Gwestai ym mhennod 1, yn serennu o bennod 2 ymlaen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Lifetime’s ‘Witches Of East End’ Picked Up To Series. Deadline.com.
  2.  TCA: Lifetime's 'Witches Of East End' Debuts Oct. 6. Deadline.com.
  3.  "Witches of East End" Renewed for Second Season by Lifetime. TV By The Numbers.
  4. 4.0 4.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-17. Cyrchwyd 2014-08-18.
  5. "Lifetime UK Sets Premiere Date For 'Witches Of East End'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-22. Cyrchwyd 2014-08-18.
  6.  Update: Witches of East End. TV Tonight (22 Gorffennaf 2014).
  7.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Hollywood Reporter.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]