William Oughtred

Oddi ar Wicipedia
William Oughtred
Ganwyd5 Mawrth 1574 Edit this on Wikidata
Eton Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1660, 13 Mehefin 1660 Edit this on Wikidata
Albury Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, dyfeisiwr, gweinidog yr Efengyl, seryddwr Edit this on Wikidata

Mathemategydd ac offeiriad Anglicanaidd o Sais oedd William Oughtred (5 Mawrth 157430 Mehefin 1660). Fe ddyfeisiodd y llithriwl ac ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r arwydd × i gynrychioli lluosi.[1]

Ganwyd yn Eton, Swydd Buckingham, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Eton a Choleg y Brenin, Caergrawnt. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1603 a'i benodi'n ficer yn Shalford, Surrey. Roedd yn rheithor Albury, Surrey, am hanner canrif o 1610 hyd ei farwolaeth yn 86 oed.

Roedd Oughtred yn diwtor i nifer o fathemategwyr a gwneuthurwyr offer, gan gynnwys John Wallis, John Pell, a Seth Ward. Ysgrifennodd lythyrau at fathemategwyr Ffrengig ac Eidalaidd er mwyn iddo gyd-gerdded â'r ymchwil newydd a chyhoeddi'r diweddaraf i'w gydwladwyr. Cyhoeddodd lawlyfr byr, y Clavis Mathematicae, ym 1631. Cyflwynodd sawl arwydd mathemategol yn y gwaith hwn, a defnyddir dau ohonynt hyd heddiw: y symbol lluosi (×) a'r symbol cymhareb (::).

Dyluniodd Oughtred y llithriwl gylchol yn y 1620au, gan weithio ar y raddfa logarithmig a ddyfeisiwyd gan Edmund Gunter. Ym 1630, cyhoeddwyd pamffled gan Richard Delamain, un o gyn-ddisgyblion Oughtred, yn honni taw Delamain oedd dyfeisydd y llithriwl gylchol. Ceisiodd Oughtred amddiffyn ei enw a'i hawl yn ei destun Circles of Proportion and the Horizontal Instrument (1632).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) William Oughtred. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mawrth 2018.