William Heneage Wynne Finch

Oddi ar Wicipedia
William Heneage Wynne Finch
Ganwyd18 Ionawr 1893 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmilwr Edit this on Wikidata
TadCharles Wynne-Finch Edit this on Wikidata
MamMaud Charteris Edit this on Wikidata
PriodGladys Waterbury Edit this on Wikidata

Roedd Syr William Heneage Wynne Finch (18 Ionawr 189316 Rhagfyr 1961) yn filwr Prydeinig ac yn dirfeddiannwr Cymreig[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Wynne-Finch yn Llundain ym 1893 yn fab i'r Is-Gyrnol Charles Arthur Wynne-Finch tirfeddiannwr Ystadau'r Foelas a Chefnamwlch a Maud Emily (née Chartis) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol bonedd Eton

Priododd Gladys merch John I. Waterbury, Fairfield, New Jersey, UDA ym 1929. Ni fu plant o'r briodas.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymadael a'r ysgol ymunodd ar Fyddin Brydeinig fel is-gapten yn y Gwarchodlu Albanaidd ym 1912; cafodd ei ddyrchafu'n Gapten ym 1916 yn Gadfridog ym 1923 yn Is-gyrnol ym 1931ac yn Gyrnol ym 1935 cyn ymddeol o'r fyddin ym 1938.

Gwasanaethodd yn y brwydrau yn Ewrop trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf gan gael ei glwyfo ddwywaith. Enillodd yr Groes Filwrol (MC) am ei gwrhydri yn y rhyfel. Gwasanaethodd ym myddin yr Aifft o 1919 i 1925 a Lluoedd Amddiffynnol y Sudan o 1925 i 1926 gan gael ei anrhydeddu ag Urdd y Nil (Order of the Nile) .

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog hyfforddi yn y Fyddin Tiriogaethol o 1939 i 1940; bu'n gweithio yn y Swyddfa Ryfel o 1940 i 1941 yn Cadlywydd byddin diriogaethol ogledd-ddwyrain Llundain 1941-1944 ac yn Is-gyrnol a chadlywydd y Gwarchodlu Albanaidd 1944 i 1945.

Gwasanaeth Cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Cymerai'r Cyrnol Wynne Finch diddordeb mawr ym myd amaeth. Gwasanaethodd fel llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; bu'n gadeirydd Pwyllgor Addysg Amaethyddol Sir Gaernarfon ac yn llywodraethwr Coleg Amaethyddol Glynllifon.[2]

Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon o 1945 hyd ei farwolaeth ym 1961, fel Arglwydd Raglaw fe fu hefyd yn Custos Rotulorum y sir, yn rhinwedd y swydd honno fe fu'n weithgar i sicrhau sefydlu Gwasanaeth Archifau Sir Gaernarfon a thrwy wasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Archifau'r sir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. “WYNNE FINCH, Colonel Sir William (Heneage),” yn Who Was Who (London: A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015); online ed., (Oxford: OUP, 2014); online ed., April 2014, [1] adalwyd 12 Ionawr 2015 trwy docyn darllenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  2. WYNNE-FINCH , Syr WILLIAM HENEAGE yn y Bywgraffiadur arlein [2] adalwyd 12 Ionawr 2015