William Gilbert Rees

Oddi ar Wicipedia
William Gilbert Rees
Ganwyd6 Ebrill 1827 Edit this on Wikidata
Haroldston St. Issell's Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 1898 Edit this on Wikidata
Blenheim Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auNew South Wales cricket team Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd William Gilbert Rees (6 Ebrill 182731 Hydref 1898) yn archwiliwr, mesurwr, ag yn ymsefydlwr cynnar yng Nghanol Otago, Seland Newydd. Fe a gyd-archwiliwr Nicholas von Tunzelmann oedd yr Ewropiaid cyntaf i ymsefydlu ym masn Wakatipu. Mae Rees yn cael ei ystyried fel sefydlwr Queenstown.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Frances Rees ym 1858

Ganwyd Rees yn Haroldston St Issell, Sir Benfro, Cymru ym 1827. Roedd ei dad yn is-gapten gyda'r Y Llynges Frenhinol. Addysgwyd Rees yn ysgol Y Llynges Frenhinol.[1]

Allfudodd Rees i New South Wales ym 1852, yna fe ddaeth yn ffermwr defaid. Dychwelodd i Loegr ym 1858 i briodi cariad o'i blentyndod, ei gefnder Frances Rebecca Gilbert (ganwyd Tachwedd 1838).[2]

Sefydlodd fferm "high country" ym 1860 yn cyfagos i safle presennol canol tref Queenstown. Roedd ei ffermdy wedi'i leoli yn cyfagos ag aber yr afon Kawarau, lle mae gwesty Hilton heddiw. Mae rhai o'r adeiladau hanesyddol wedi eu cadw.

Mae maestref Queenstown, Frankton, wedi ei enwi ar ôl ei wraig Frances. Mae Parc Cecil a Parc Walter wedi eu enwi ar ôl enwau cyntaf ei feibion.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, darganfyddwyd aur yn yr ardal i'r gogledd ddwyrain, ar yr adeg hyn, newidiodd Rees ei sied wlân mewn i westy o'r enw the Queen's Arms, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Eichardt's.[3] Heddiw mae Rees yn cael ei ystyried fel sefydlwr Queenstown.

Roedd Rees yn esboniwr cynnar yn Seland Newydd ar gyfer y gêm o griced, gan ei fod wedi cael ei eni mewn i deulu a oedd gyda cysylltiadau cryf i'r gêm. Roedd yn aelod o'r teulu Grace, ac yn perthyn fel cefnder i W.G.Grace, arwr cynnar i'r gêm. Ymddangosodd yn un o'r gemau dosbarth cyntaf i New South Wales ym 1857; roedd ei gefnder William Lee Rees yn chwarae i Victoria yn yr un gem.[4] Roedd e hefyd yn credwr Anglicanaidd brwd ac fe cynorthwyodd gyda adeiladu Eglwys Sant Pedr, yng nghanol Queenstown, cafodd ei gyflawni ym 1863.[5]

Mae'r Afon Ress yn Central Otago wedi ei enwi ar ôl Rees, ac mae cerflun ohono yn sefyll ar Rees Street, sy'n gyfagos i lanfa'r tref. Mae yna westy o'r enw The Ree ar heol Frankton yn Queenstown sydd gyda'i enw arno ac mae yna bont ar State Highway 6 sydd wedi ei enwi yn ei gof.[6]

Bu farw ym Mhlenheim, Seland Newydd, ar yr 31ain o Hydref ym 1989,[7] ac fe gladdwyd ym mynwent Omaka.[8]

Galeri[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barry, William Jackson (1897). Past and Present, and Men of the Times. Wellington: McKee and Gamble. tt. 243–245. Cyrchwyd 22 June 2012.
  2. "Untitled". T and G Brownen. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 22 June 2012.
  3. "History: William Gilbert Rees". Experience Queenstown. Cyrchwyd 22 June 2012.
  4. "William Rees". Cricinfo. Cyrchwyd 22 June 2012.
  5. "St Peter's Church". Parish of Wakatipu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-29. Cyrchwyd 22 June 2012.
  6. Caldwell, Olivia (23 May 2012). "Cycle bridge laid for Queenstown Trail". Otago Daily Times. Cyrchwyd 22 June 2012.
  7. "Obituary". The Press. 1 November 1898. t. 6. Cyrchwyd 1 March 2015.
  8. "Cemetery records search". Marlborough District Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 1 March 2015.