Wicipedia:Cofnodion 10 Rhagfyr 2012

Oddi ar Wicipedia
   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

Presennol: Elfed, Martin, Huw, Phil, Rhys Wynne, Les Barker, Llinos. Ymddiheuriadau: Eleri a Gwyn Williams

Ffurfio elusen: mae'r gwaith papur yn y broses o gael ei orffen. Trafodwyd CoI / Gwrthdaro buddiannau WMUK a'r gwersi sy'n deillio o adroddiad Compass.

Trafodwyd y cyllido a grantiau posibl ac awgrymwyd Cadwyn Clwyd.

Cafwyd trafodaeth ar olygathon posibl yn Aberystwyth; cefnogwyd. Mae'r Comisiwn Frenhinol dros Henebion wedi ein gwahodd i ddefnyddio eu swyddfa a'u cyfrifiaduron ar gyfer y golygathon.

Cyhoeddusrwydd: angen swyddog gan fod cymaint o bethau wedi digwydd yn ystod y flwyddyn diwethaf a chymaint ar y gweill. Cynigiwyd a derbyniwyd Rhys yn Swyddog Cyhoeddusrwydd.

Eisteddfod. Penderfynwyd gofyn i'r Llyfrgell Genedlaethol a gawn ni arddangosfa yn eu pabell. Soniwyd am brosiect Digido'r LLGC. Cytunwyd fod y Gefnlen wedi bod yn hynod o lwyddiannus y llynedd ac y byddem yn croesawu gwahoddiad i gynnal gwersi unwaith eto, ar y cyd gyda Hacio'r Iaith.

Trydar: pwysigrwydd cywain diddordeb mewn trydar er mwyn y cyhoeddusrwydd bositif a all ddeillio o hyn.

Cyfarfod nesaf: 18fed o Fawrth yn y Parci. Diolchwyd i Dafydd am y cysylltiad Wi-Ffi llydan a di-dor.