Walabi
Gwedd
| Enghraifft o: | organebau yn ôl enw cyffredin |
|---|---|
| Math | Macropodidae |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0mb5g |
| Thesawrws y BNCF | 38046 |
Rhywogaeth o marswpial a geir yn Awstralia a Gini Newydd yw'r walabi. Maent yn macropodau ac â chysylltiad agos â changarŵau. Fodd bynnag, mae cangarŵau yn fwy na walabiau. Mae poblogaethau wedi'u cyflwyno yn Seland Newydd, Hawaii, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a rhai gwledydd eraill.
Enw
[golygu | golygu cod]Benthyciwyd y gair walabi i'r Gymraeg o'r Saesneg wallaby yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, sydd ei hun yn air benthyg o'r iaith Awstralaidd Dharug, lle y mae wollabi yn cyfeirio at walabi'r creigiau. Gwelir y term corgangarŵ yng Ngeiriadur yr Academi hefyd.[1]
