Waka

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Waka modern ym Mae Ynysoedd
Waka taua (Waka rhyfel) ym Mae Ynysoedd, 1827–1828

Mae Waka yn gwch traddodiadol Maori o Seland Newydd.[1] ‘Waka'’ yw’r gair lluosog hefyd. Gwelir cychod tebyg, gyda enwau tebyg, dros Polynesia, gyda enwau tebyg,megis vaka, wa'a, neu va'a. Mae maint a phwrpas y cychod yn amrywio.

Fe'u gwnaed yn wreiddiol o bren y goeden totara (Podocarpus totara).[2]

Darganfywyd y waka cynharaf ger Afon Anaweka yn Ardal Tasman. Adeiladwyd y waka tua 1400 yn Seland Newydd.[3]

Ers y 1970au, tua 8 weka, tua 20 medr o hyd, wedi cael eu hadeiladu i forio i rannau eraill y cefnfor.

Arddangosir waka taua yn Amgueddfa Otago, Dunedin

Mae Waka taua yn golygu canw rhyfel. Gallent fod 40 medr o hyd, ac yn cario hyd at 80 o bobl[4] Fel arfer, mae ganddynt cerfiadau, ac yn dod o un boncyff[5]. Weithiau, mae un astell hir yn uchwanegu uchder i’r Waka, a weithiau mae astell arall yn cryfhau’r waka, fel Te Winika yn Amgueddfa Waikato.[6][7]

Yn draddodiadol, roedd Waka taua yn sanctaidd. Ni chaniatwyd bwyd wedi coginio arno. Roedd rhaidmynd ar y cwch wrth ei ochrau. Yn aml roeddent du neu wyn, gyda du yn cynrychioli marwolaeth. Y lliw arall oedd coch, i gynrychioli sancteiddrwydd. Weithiau gosodwyd waka taua ar ei ben er mwyn anrhydeddu arweinydd sy wedi marw.[8] Anelwyd Waka at ganol waka eu gelynion er mwyn ei gorfodi dan y dŵr. Digwyddodd rhywbeth tebyg i gwch Abel Tasman ym 1642, a bu farw 4 o’i forwyr.

Llun o waka traddodiadol

Adeiladu Waka[golygu | golygu cod y dudalen]

Darparid coeden Totara a threulid blynyddoedd yn paratoi am ei thorri. Mae totara’n bren ysgafn gyda chyfran uchel o olew, sy’n cadw’r pren yn iach. Tynnid rhisgl oddi ar un ochr y goeden, clirid y tir o’i chwmpas, a phlannid cnwd ar gyfer y gweithwyr. Ar ôl caneuon a gweddi, torrid y goeden gan ddefnyddio adze gosod tân ar waelod y goeden.

Adeiladid platfform a defnyddid “toki” (bwyell mawr) ar gyfer coeden fawr. Defnyddid y toki fel pendil a threulid wythnosau i ddod â’r goeden i lawr. Torrid y canghennau i gyd i ffwrdd, a siapid corff y waka. Wedyn tynnid y waka, yn pwyso tua 3-4 tunnell, i afon gyda raffau. Defnynnid boncyffion fel rholbrennau i hwyluso’r gwaith. Gorffenid siapio’r waka yn agosach i’r pentref i fod yn agosach at fwyd. Cymerid yr holl broses tua blwyddyn; os oedd damwain neu farwolaeth yn ystod y proses, ni fuasai’r waka’n cael ei orffen. Adeiladid waka mawr mewn darnau ac yn cael eu clymu gyda’n gilydd. Roedd ganddynt i gyd enwau.

Mae gan waka dueddiad i lenwi gyda dŵr tra chario llwyth mawr neu nifer sylweddol o bobl. Felly roedd angen aros am dywydd braf cyn adael y llan.

Crewyd ffilm dogfen gan Uned Ffilm Cenedlaethol ym 1974 am adeiladu waka.[9] Cymerodd y broses 18 mis. Comisiynwyd y waka gan Frenhines Maori, Te Arikinui Dame Te Atairangikaahu. Adeiladwy y waka yn Tūrangawaewae Marae gan y cerfydd Piri Poutapu. Cyfarwyddwr y ffilm oedd David Sims.

Hwyliau traddodiadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Nododd Abel Tasman bod 2 o’r waka sy wedi ymosod ar ei cychod yn cario hwyliau bychain gyda siap triongl.[10] O’r 1830au ymlaen, morwyr o Ewrop wedi eu disgrifio. Roeddent yn fach, gwnaethpwyd gyda llin neu lafrwyn, ac yn hawdd eu codi neu ollwng. Roedd yr hwybren a cheibren yn hir ond yn ysgafn; defnyddwyd pren Tanekaha, a oedd yn syth, yn gryf ac yn ystwyth.

Waka gyda hwyl siap triongl; darlun gan Herman Spöring ar siwrnai cyntaf James Cook i Seland Newydd ym 1769

. Yn aml, gosodwyd plu ar ben yr hwyl, efallai i ddangos cyfeiriad y gwynt. Defnyddir y gwynt i hwylio gyda’r gwynt, byth yn ei erbyn, oherwydd ansyfodlogrwydd y waka; does ganddo cêl i’w syfodli. Yn achlysurol, roedd 2 hwyl ar waka mwy. Weithiau, roedd gan yr hwyl addurniad patrwmog. Roedd gan cychod yr Ynysoedd Marquesa hwyliau tebyg.

Technoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi cyrhaeddiad James Cook ym 1769 a Marion Du Fresneym 1772, roedd haearn a dur ar gael i’r bobl Māori. Cyfnewidwyd pysgod rhwng y Māori a morwyr am hoelion miniog i gerfio pren. Cyrhaeddodd llawer o gychod o Ewrop ar ôl 1835, ac roedd cychod ar gael i’r Māori; roeddent yn fwy ymarferol na’r waka, a chafodd y Māori brofiad ohonynt tra gweithio ar gychod o gwmpas Seland Nwydd ac ar y Cyfanfor Tawel. Cyrhaeddodd 100 o gychod y Bae Ynysoedd ym 1839. Defnyddiwyd ychydig iawn o waka yn ystod Rhyfeloedd Seland Newydd. Suddwyd llawer ohonynt gan llywodraeth Seland Newydd ym 1863 ar Afon Waikato. Mae sawl erbyn hyn yn Amgueddfa Goffa Rhyfel Auckland.

Waka ar y cyfanfor[golygu | golygu cod y dudalen]

Te Aurere, waka hourua wedi ail-adeiladu, ym Mangonui yn 2009

Roedd hi’n bosibl padlo waka ar y cyfanfor, ond roeddent yn gyflymach wrth hwylio.

Yn ôl chwedlau, daeth pobl Polynesiadd yn defnyddio waka mawrion, ac efallai waka hourua, cychod gyda dau gorff. Adeiladwyd Te Aurere, waka hourua, ym 1992, yn defnyddio dullau a defnydd traddodiadol.[11] Mae’r waka wedi hwylio dros y Môr Tawel i Hawaii, Tahiti, Ynysoedd y Marquesas, Caledonia Newydd ac Ynys Norfolk, yn ogystal a hwylio o gwmpas Ynys y Gogledd sawl gwaith yn defnyddio dullau Polynesiano hwylio]].[12]

Waka ama (canw sadiwr)[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelwyd waka ama gan fforwyr gynnar o Ewrop, gan gynnwys Sydney Parkinson, arlunydd gyda James Cook ym 1769, a Johann Reinhold Forster, gwyddonydd gyda Cook ym 1773[13] Roedd waka ama wedi mynd erbyn dechrau’r 19fed ganrif, heblaw am hen hanesion ohonynt. Darganfuwyd dau hen sadiwr ar arfordir Horowhenua ac un arall yn Ogof Moncks ger Christchurch. Roeddent i gyd yn fach, yn awgrymu bod y cychod hefyd yn fach, ac yn cael eu defnyddio ar ddyfroedd lleol.

Dechreuodd rasio waka ama yn ystod y 1980au, yn defnyddio canwod wedi cynllunio yn Hawaii a Tahiti, ac mae rasio wedi dod yn fwy poblogaidd, yn aml yn ystod gwyliau diwylliannol yr haf.[14]

Defnydd arall[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Haunui, copi o waka cyfanfor

Defnyddiwyd llafrwyn neu lin i adeiladu Waka weithiau, yn arbennig yn Ynysoedd Chatham. Yn 2009, crewyd flyd o vaka moana gan Sefydliad Okeanos ac adeiladwyr cychod Salthouse, yn defnyddio Gwydr ffibr.[15] Rhoddwyd un ohonynt, yr Haunui, i Ymddiriedolaeth Mordeithio Te Toki.[16]

Atgyweiriwyd y waka taua Te Tuhono yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban gan y Maori George Nuku, yn defnyddio polymethyl methacrylêt.[17]

Ystyron eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae "waka" hefyd yn golygu ‘llestr’ neu ‘cerbyd’. Mae “waka huia” yn cyfeirio at llestr lle cedwir “taonga” (trysorau).[18]. Mae’n cyfeirio hefyd at ceir; mae waka-rere-rangi yn golygu ‘awyren’; mae waka hari hinu yn llong olew. "Te Manatū Waka" yw’r Gweinyddiaeth Trafnidiaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Tahana, Yvonne (18 Ionawr 2010). "Waka back and better than ever". The New Zealand Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2011.
  2. "Story: Conifers – Tōtara group" (yn Saesneg). Te Ara - the Encyclopedia of New Zealand. Cyrchwyd 30 Medi 2012.
  3. ’An early sophisticated East Polynesian voyaging canoe discovered on New Zealand's coast’; cofnodion Academi Cenedlaethol Gwyddorion, 14 Hydref 2014, awduron Dilys A Johns a Geoffrey J Irwin, Yun K Sung
  4. [http://www.teara.govt.nz/en/waka-canoes/3 Gwefan Te Ara
  5. Gwefan y Herald Seland Newydd, 18 Ionawr 2010
  6. Taflen Amgueddfa Waikato
  7. Gwefan Amgueddfa Waikato.
  8. ’Stories without end’ gan Judith Binney, cyhoeddwr Llyfrau Bridget Williams:isbn=9781877242472
  9. Taahere Tikitiki - the making of a Maori canoe
  10. ’Dyddiadur Abel Tasman’; Cyhoeddwyr Random House, 2008
  11. Gwefan teaurere.org.nz, cyhoeddwr Te Tai Tokerau Tarai Waka
  12. Gwefan teaurere.org.nz, cyhoeddwr Te Tai Tokerau Tarai Waka
  13. ‘An Account Of A Voyage Round The World In The Years MDCCLXVIII, MDCCLXIX, MDCCLXX, and DCCLXXI gan Lieutenant James Cook, Commander of his Majesty's Bark the Endeavour; Cyhoeddwyr William Strahan a Thomas Cadell, Llundain
  14. Gwefan nzherald.co.nz; erthygl gan Michael Neilson:’ Waka ama race through Auckland retraces 800-year-old Tainui route’,8 Chwefror 2019
  15. Gwefan sefydliad Okeanos
  16. Gwefan tetokiwakahourua.org
  17. Gwefan y Journal of Conservation and Museum Studies
  18. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Seland Newydd.
Ship.png Eginyn erthygl sydd uchod am long neu gwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.