Vuvuzela

Oddi ar Wicipedia
Vuvuzela coch.
Grŵp o gefnogwyr gyda vuvuzelas.

Offeryn cerdd sy'n debyg i drwmped yw'r vuvuzela. Daeth i amlygrywdd fel yr hoff offeryn gan gefnogwyr yng Nghwpan Pêl-droed y Byd 2010 yn Ne Affrica. Mae'n offeryn chwyth plastig sy'n gallu creu sŵn byddarol.

Dyfeiswyd y vuvuzela a chofrestru'r hawlfraint i'r enw yn 2001 gan Neil Van Schalkwyk, dyn busnes o Dde Affrica. Ar gyfer Cwpan y Byd 2010 cafodd dros 90% o'r offerynnau eu gwneud mewn dwy ffatri yn Yiwu, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Cafodd dros 1 miliwn eu hallforio i Dde Affrica yn barod ar gyfer y gystadleuaeth.[1]

Cafwyd sawl cwyn am dwrw cannoedd o vuvuzelas yn boddi allan pob sŵn arall. Yn Ffrainc, cynigiodd un sianel teledu wasanaeth arbennig gyda sŵn yr offerynnau wedi'i flocio'n ddigidol. Ond mae eraill yn cefnogi'r offeryn, yn cynnwys yr Archesgob Desmond Tutu.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn cerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.