Virtus

Oddi ar Wicipedia
Virtus
Enghraifft o'r canlynolrhinwedd Edit this on Wikidata
Allor wedi'i chysegru i Virtus, 3g, Cwlen, yr Almaen

Roedd Virtus yn rhinwedd benodol yn Rhufain hynafol. Daeth y gair â chynodiadau o ddewrder, gwroldeb, rhagoriaeth, a chymeriad. Fe'i hystyrid yn nodwedd wrywaidd (mae'r gair yn deillio o'r enw Lladin vir, "gŵr"), ac anaml y'i cysylltid â merched, plant neu ddynion nad oeddent yn aristocratiaid. Roedd Virtus weithiau yn cael ei bersonoli yn dduwdod, a delwau ohono wedi eu gosod i fyny mewn temlau.

Roedd virtus, gyda pietas (duwioldeb), clementia (trugaredd) a iustitia (cyfiawnder), yn un o'r pedair rhinwedd imperialaidd roedd y Senedd Rhufain yn eu cydnabod yn Augustus fel y'i tystiwyd gan arysgrif y darian aur a osodwyd er anrhydedd iddo yn y Curia Julia yn Rhufain. Ynghyd â pietas, clementia a fides exercitus (teyrngarwch y fyddin) roedd yn un o'r rhinweddau roedd yn rhaid i'r cadfridog Rhufeinig delfrydol ei feistroli.