Vänern
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Karlstad, Hammarö Municipality, Bwrdeistref Kristinehamn, Gullspång Municipality, Bwrdeistref Mariestad, Götene Municipality, Lidköping Municipality, Bwrdeistref Vänersborg, Grästorp Municipality, Bwrdeistref Mollerud, Bwrdeistref Åmål, Säffle Municipality, Bwrdeistref Grums |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,650 km² |
| Uwch y môr | 44.4 metr |
| Yn ffinio gyda | Grumsfjärden |
| Cyfesurynnau | 58.9167°N 13.5°E |
| Dalgylch | 41,182 cilometr sgwâr |
| Hyd | 140 cilometr |
![]() | |
Llyn yn ne Sweden yw Vänern. Gydag arwynebedd o 5,655 km², Vänern yw'r llyn fwyaf yn Sweden, a'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Saif yn Götaland, yn nhaleithiau Västergötland, Dalsland a Värmland.
Ffurfiwyd y llyn yn ystod yr oes ia ddiwethaf, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae 44 m uwch lefel y môr, ac yn 106 m yn ei fan dyfnaf. Yr afon fwyaf sy'n llifo i mewn iddo yw afon Klarälven, sy'n llifo i'r llyn ar yr ochr ogleddol, ger dinas Karlstad. Mae Göta älv, sy'n rhan o Gamlas Göta, yn llifo allan. Ceir diwydiant pysgota pwysig yma, ac mae pysgota hamdden hefyd yn boblogaidd.


