Uumar

Oddi ar Wicipedia
Uumar yn Chwefror 2015.

Band Cymraeg yw UUMAR. Ffurfiwyd y band yng Nghaerdydd gan Siôn Owens (basydd Y Bandana) Tomos Williams (sy'n perfformio'n unigol fel Tom ap Dan) a Rhys Morgan (aelod o Breichiau Hir) pan oedd y tri yn fyfyrwyr yno. Ymunodd Llyr Rhisiart ar y drymiau wedi i'r band gael nifer o ddrymwyr dros dro.

Maent yn enwog am berfformiadau egniol ac hwyliog. Maent wedi perfformio mewn nifer o wyliau megis Gwyl y Dyn Gwyrdd, Gwyl Nôl a Mlan a Crug Mawr.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • "Neb" - EP, (Rasp, 2014)
  • "Briw" - EP (Recordiau JigCal, 2016)
  • "Peth am Farw" - Sengl Digidol (Recordiau JigCal, 2017)