Neidio i'r cynnwys

Siôn Owens

Oddi ar Wicipedia


Mae Siôn Meirion Owens yn gomedïwr ac yn gerddor. Mae'n gael ei adnabod mwyaf fel aelod o'r band Y Bandana.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Siôn yng Nghaernarfon, gan fynychu Ysgol Syr Hugh Owen.[1] Mae ganddo frawd hyn, Tomos Owens, oedd hefyd yn aelod o Y Bandana.

Ddaru Siôn astudio Peirianneg Meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2010, wrth raddio yn 2015[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Ffurfiodd Siôn a'i frawd Tomos Y Bandana ym mis Medi 2007 wrth ofyn i'w cefnder, Gwilym i ymuno â nhw wrth jamio yn eu hystafell wely a phenderfynu ar enw i fand -Y BANDANA (y band da 'na). O fewn pythefnos i'r band ffurfio, yr oeddent yn chwarae eu gig gyntaf.[3]

Bu'r band yn brysur iawn am naw mlynedd gan berfformio'n fyw yn gyson. Mi drefnon nhw nifer o deithiau ar ei liwt eu hunain gan wahodd bandiau ifanc eraill i ymuno â nhw. Wnaethon nhw berfformio ar lwyfan Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol am naw mlynedd yn olynnol 2008-2016.

Cyn Eisteddfod Y Fenni 2016 cyhoeddodd y band eu bod am rhoi'r gorau iddi a chwaraeodd y band eu gigs olaf yn Hydref 2016. Roedd gan Y Bandana dair cân yn siart 40 MAWR Radio Cymru 2014 - sef siart o hoff ganeuon y gwrandawyr yn dilyn pleidlais yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Yn 2016 roedd gan y band bum cân yn siart 40 MAWR - Heno yn yr Anglesey; Cyn i'r lle ma gau; Geiban; Cân y Tân a Dant y LLew.[4]

Roedd Siôn hefyd yn gitarydd a prif leisydd i'r band Uumar.

Comedi[golygu | golygu cod]

Ddaru Siôn berfformio stand-yp am y tro cyntaf yn 2016 fel rhan o 'Cymryd y Mic', sialens gan y cyfres teledu Y Lle i gael pobl adnabyddus i berfformio stand-yp am y tro cyntaf ar y teledu. Ddaru Siôn gario mlaen i berfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg, a ffilmio Pwnc Pum Munud ar gyfer S4C Comedi yn 2019.[5] Fe berfformiodd fel rhan o 'Gala'r Goreuon' ar gyfer S4C yn 2019.[6]

Roedd o'n cyfrannu yn rheolaidd ar gyfer BBC Sesh ac yn 2020 recordiodd y podcast 'Fy Nhro Cyntaf'.[7] Fe berfformiodd fel Gruff yn y gyfres comedi 'Vandullz' ar gyfer BBC 1 yn 2021.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Trewyn, Hywel (2016-10-16). "Welsh language rockers Y Bandana play last ever gig". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-24.
  2. "Class of 2015 celebrate graduation". Cardiff University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-24.
  3. Selar, Y. (2016-07-30). "Ffarwelio â'r Bandana". Y Selar. Cyrchwyd 2024-05-24.
  4. "Yma o Hyd yw dewis y bobl". BBC Cymru Fyw. 2014-08-25. Cyrchwyd 2024-05-24.
  5. "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-05-24.
  6. "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-05-24.
  7. "BBC Sounds - Fy Nhro Cyntaf - Available Episodes". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-24.
  8. Guide, British Comedy. "Vandullz - BBC1 Wales Sitcom". British Comedy Guide (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-24.